Cost of Living Support Icon

Y Cynllun Corfforaethol

Cynllun Corfforaethol Cyngor Bro Morgannwg 2020-2025.

 

Mae Bro Morgannwg yn ardal amrywiol sy’n cynnwys cymunedau gwahanol iawn sydd â dyheadau, anghenion a phryderon gwahanol. Mae ein Cynllun yn nodi sut y byddwn yn gweithio i fodloni’r anghenion hynny, mynd i’r afael â phryderon a helpu pobl o bob oedran i gyflawni eu dyheadau.  

 

Mae’r Cyngor yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, o addysg i ddiogelu amgylcheddol, tai a materion tystysgrifau geni, i gynllunio a chynnal a chadw priffyrdd. Cydnabyddwn pa mor bwysig yw’r gwasanaethau hyn i bobl Bro Morgannwg 

 

Yn unol â’n dyletswyddau dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol rydym yn ymrwymedig i edrych tua’r hirdymor a byddwn yn gweithio’n galed i roi etifeddiaeth gynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol. Byddwn yn canolbwyntio ar gamau gweithredu ataliol ac yn eich cynnwys chi yn yr hyn a wnawn, tra’n gwrando ar eich syniadau, eich barn a’ch pryderon. Byddwn yn dal i weithio mewn partneriaeth, gan gydnabod buddion hyn a phwysigrwydd cydlynu gwasanaethau o gylch anghenion pobl.

 

Yn y Cynllun hwn cyflwynwn bedwar amcan lles newydd y credwn sy’n ategu ei gilydd ac ar y cyd byddwn yn cyfrannu tuag at y saith nod lles cenedlaethol.  Mae’r Cynllun hwn yn nodi pam ein bod wedi dewis yr amcanion hyn a sut y byddwn yn eu cyflawni. 

 

Ein pedwar amcan lles newydd yw:

  • Gweithio gyda a thros ein cymunedau

  • Ategu dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy

  • Cynorthwyo pobl yn eu cartrefi ac yn eu cymunedau

  • Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd

 

Mae mwy o fanylion ar sut y byddwn yn gweithio i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Bro Morgannwg ar gael yn y cynllun llawn isod: