Cost of Living Support Icon

Hunanasesiad Blynyddol Bro Morgannwg

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i sicrhau cynnydd parhaus er budd llesiant y trigolion.

Mae'r adroddiad Hunanasesu Blynyddol yn amlinellu asesiad y Cyngor ei hun o'i berfformiad fel sefydliad dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn un o ofyniadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, nod yr adroddiad hunanasesu yw rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru, ein rheoleiddwyr, dinasyddion Bro Morgannwg a rhanddeiliaid eraill ein bod yn perfformio'n dda, gan wneud penderfyniadau mewn ffordd agored, a defnyddio'n harian ac adnoddau eraill yn effeithiol i gyflawni ein hymrwymiadau Cynllun Cyflawni Blynyddol a chyfrannu at yr amcanion lles cenedlaethol.