Cost of Living Support Icon

Ein Gwerthoedd 

Newid y ffordd yr ydyn ni’n gweithio a chadw at ein gwerthoedd

 

 Values

 

 

Dyma’n Gwerthoedd: 

  • Uchelgeisiol 
  • Agored
  • Gyda’n gilydd
  • Balch 

Mae’r gwerthoedd hyn yn disgrifio ein hymddygiad proffesiynol o ran ein dull gweithio, sut rydyn ni’n gweithio gyda'n gilydd a defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r gwerthoedd wedi’u llywio gan ystod o weithgareddau ymgysylltiad staff. 

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ ar waith sy’n dweud wrth sefydliadau sut mae bodloni eu dyletswyddau dan y Ddeddf. Mae gwneud rhywbeth yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn golygu bod rhaid i ni ymddwyn mewn ffordd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion cyfredol yn cael eu diwallu heb leihau gallu cenedlaethau'r dyfodol i fodloni eu hanghenion eu hunain. Wrth ddylunio’r cynllun, rydym wedi ystyried y pum dull gweithio sy'n arddangos datblygu cynaliadwy. Rydym yn ceisio ymgorffori hyn i'r ffordd yr ydyn ni'n gweithio yn ehangach ledled y Cyngor.

 

Mae cefnogi’r canlyniadau a’r amcanion Llesiant yn gyfres o gamau cynllunio integredig sy’n dangos sut bydd ein gweithgareddau polisi, AD, cyllid, risg, caffael, TGCh, eiddo a gweithgareddau cynllunio corfforaethol eraill yn dod ynghyd i gefnogi cyflawniad y cynllun. Rydym wedi creu Bwrdd Syniadau gyda swyddogion ledled y Cyngor a fydd yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau ein bod ni’n defnyddio dull cadarn wrth gynllunio busnes ac yn rhannu arfer da ledled y Cyngor gyda’n partneriaid.