Cost of Living Support Icon

Gostyngiadau Treth Cyngor

Os mai dim ond un oedolyn sy’n byw mewn eiddo, yna mae’n bosib cael gostyngiad o 25%.

 

Nid yw pobl sy’n perthyn i’r grwpiau canlynol yn cael eu cynnwys yn y nifer o oedolion sy’n byw mewn tŷ.

  • Myfyrwyr llawn amser, myfyrwyr nyrsio, prentisiaid a hyfforddeion Hyfforddiant Ieuenctid.

  • Cleifion sy’n preswylio mewn ysbytai

  • Pobl sy’n derbyn gofal mewn cartrefi gofal

  • Pobl â nam meddyliol difrifol

  • Pobl sy’n aros mewn rhai mathau o hostelau neu llochesi nos

  • Pobl 19 oed sydd yn yr ysgol neu newydd adael

  • Gweithwyr gofal sy’n gweithio am gyflog isel, i elusennau fel arfer

  • Pobl sy’n gofalu am rywun ag anabledd sy heb fod yn ŵr neu wraig, partner, neu blentyn o dan 18

  • Aelodau'r fyddin ar ymweliad a rhai sefydliadau rhyngwladol

  • Aelodau cymunedau crefyddol (mynachod a lleianod)

  • Pobl sydd yn y carchar (ar wahân i’r sawl sydd yn y carchar am beidio talu Treth Cyngor neu ddirwy.

 

 

Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys i gael unrhyw un o’r gostyngiadau uchod cysylltwch â’r adran Treth Cyngor.