Cost of Living Support Icon

Cynllun Twyll Cenedlaethol y DU a Rhannu Gwybodaeth

Mae’r Cyngor yn cyfrannu at y Cynllun Atal Twyll Cenedlaethol, sef arferion cydweddu data gan y Comisiwn Archwilio i nodi taliadau gwallus a ffuga wneir o ffynonellau arian cyhoeddus. 

 

Bydd y Cyngor yn darparu data Gostyngiad Treth y Cyngor i Unigolion a’r Gofrestr Etholiadol i’r Comisiwn Archwilio at ddiben croesgyfeirio systemau er mwyn atal a datgelu achosion o dwyll.

 

Mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod i warchod y cronfeydd arian cyhoeddus mae’n eu gweinyddu. Gall rannu’r wybodaeth berthnasol â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus atal a datgelu twyll.

 

Gellir rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei amcanion o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon wedi eu cydlynu yn ôl anghenion yr unigolyn dan sylw.

 

O ganlyniad, er mwyn diogelu oedolion bregus, bydd Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn rhannu gwybodaeth â’r Adran Gyllid er mwyn sicrhau na weithredir traddodeb yn erbyn unigolion am beidio â thalu treth y cyngor os nad yw’n briodol i wneud hynny.