Cost of Living Support Icon
Couple using a laptop

Porth e-Ddinesydd

Gwelwch eich Treth Gyngor, Budd-daliadau a/neu Ardrethi Busnes ar-lein.

 

Bydd angen eich cyfeirnod Treth Gyngor, Budd-daliadau a/neu Ardrethi Busnes (peidiwch â chofrestru eto os ydych eisoes wedi cofrestru). Os ydych eisoes wedi cofrestru, bydd angen eich enw defnyddiwr, cyfrinair a gwybodaeth gofiadwy i fewngofnodi.

 

Ewch i e-Ddinesydd nawr

 

Gallwch wneud y canlynol heb gofrestru Cofrestru ar-lein ar gyfer  Debyd Uniongyrchol, Talu'ch  Treth Gyngor neu Ardrethi Busnes a Newid eich cyfeiriad.

 

Sylwer: Rydym yn datblygu fersiwn Gymraeg o’r Porth e-Ddinasyddion ar hyn o bryd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01446 729556. 

 

e-filio

Derbyniwch filiau Treth Gyngor a NNDR yn electronig; golyga hyn na fyddwch bellach yn derbyn biliau papur. Felly cofrestrwch ar gyfer bilio di-bapur. Bydd angen eich enw defnyddiwr, cyfrinair a gwybodaeth gofiadwy ar gyfer e-Ddinasyddion i ddefnyddio e-Filio neu fel arall gallwch gofrestru ar gyfer e-Ddinasyddion uchod.   

 

Newid Cyfeiriad e-Ddinesydd - Dwedwch Wrthym Unwaith

Gallwch roi gwybod inni am newid yn eich cyfeiriad drwy gyflwyno’ch manylion ar-lein. I leihau’r nifer o adrannau y mae angen ichi roi gwybod iddynt byddwn ni’n rhoi gwybod i’r adrannau canlynol ar eich rhan:

 

  • Y Dreth Gyngor
  • Budd-daliadau Tai a Chyngor
  • Gordaliadau Budd-daliadau Tai
  • Ardrethi Annomestig

 

Cyflwyno newid yn eich cyfeiriad

 

Sylwer y gallwn ni gysylltu â chi i gael gwybodaeth bellach os oes ei hangen.

 

  • Rydw i wedi anghofio fy enw defnyddiwr/cyfrinair e-Ddinasyddion, sut alla i ddod o hyd iddo?   

    Os byddwch chi'n ceisio cael mynediad i Adran e-Ddinasyddion fwy na 3 gwaith gyda'r manylion anghywir (e.e. enw defnyddiwr a/neu gyfrinair), bydd mynediad yn cael ei wrthod.

     

    I ddatgloi'ch cyfrif, ffoniwch un o'r timau isod:

    Refeniw ar 01446 729556

    Budd-daliadau ar 01446 709244

    Trethi Annomestig ar 01446 709317 

     

    Byddwn ni'n gofyn i chi gadarnhau pwy ydych chi trwy ateb cwestiynau diogelwch.Yn ogystal, os gwnaethoch chi ddarparu cyfeiriad e-bost wrth gofrestru, gallwch chi ofyn am gael eich atgoffa o'ch cyfrinair yma.

     

  • Rydw i wedi anghofio fy rhif unigryw
    Os hoffech chi gael eich atgoffa o'ch rhif unigryw, mewngofnodwch i e-Ddinasyddion, dewiswch 'My Profile' ac yna 'Interactive Services' a darparu'r manylion perthnasol.
  • Alla i newid fy mhroffeil e-Ddinasyddion?
    Gallwch. Mewngofnodwch i Adran e-Ddinasyddion, dewiswch 'My Profile'. Gallwch addasu'ch manylion e-Ddinasyddion, e.e. cyfeiriad e-bost, enw a chyfeiriad trwy ddewis 'Change Profile' a newid/diweddaru eich cyfrinair trwy ddewis 'Change Password'.
  • Rydw i wedi cofrestru ar gyfer e-Filio, felly pam ydw i'n dal i dderbyn biliau papur?

    Dylech chi dderbyn e-bost pan fyddwch chi'n cofrestru yn y lle cyntaf. Rhaid i chi glicio ar y ddolen yn yr e-bost hwn i gwblhau proses gofrestru e-Filio, neu byddwch chi'n dal i dderbyn biliau papur. Rhaid i bob unigolyn sydd wedi eu rhestru ar gyfrif gofrestru ar gyfer e-Filio er mwyn i holl filiau yn y dyfodol gael eu hanfon trwy e-Filio. Nodwch fod angen cyfeiriad e-bost arnoch chi i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. 

     

    Mae fy statws bilio electronig yn dangos bod biliau'n cael eu hanfon trwy'r post er bod cyfeiriad e-bost wedi cael ei gofrestru.Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer e-Filio ac mae enw mwy nag un person ar y cyfrif, RHAID i chi glicio botwm 'Go' ar ôl diweddaru manylion personol pob unigolyn. Os na fyddwch chi'n clicio botwm 'Go', fydd y manylion ddim yn cael eu diweddaru a fydd y wybodaeth ddim yn cael ei chydnabod. 

  • Rydw i'n cael trafferth gweld y tudalennau

    Os ydych chi'n cael trafferth wrth glicio ar ddolenni i dudalennau hunan-wasanaeth eraill ac rydych chi'n defnyddio 'Internet Explorer', bydd angen i chi ddileu eich hanes pori. Agorwch Explorer, dewiswch 'Tools', 'Internet Options' a'r botwm 'General'. Cliciwch ar 'Delete Browsing History', wedyn cliciwch ar y ddolen eto. Os ydy'r broblem yn parhau, ffoniwch ni ar 01446 709310.  

  • Pryd mae'r system ar gael?

    Mae'r system wedi ei chynlllunio i fod ar gael trwy'r dydd bob dydd, ac eithrio 18:00-00:00 nos Sul pan fydd gwaith cynnal a chadw hanfodol yn digwydd.

     

    Os cewch chi drafferth gweld manylion eich cyfrif, cysylltwch â ni:

     

    Tim Cefnogaeth e-Ddinasyddion

    Dydd Llun-ddydd Iau, 9am i 4.30pm

    Dydd Gwener, 9am i 4pm

     

    Ffoniwch 01446 729556, 01446 709310 neu 01446 709289

     

    e-bostiwch y tim perthnasol

    nndr@valeofglamorgan.gov.uk

    benefits@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Cyflwyno Ymholiad Treth Gyngor 

     

     

 

 

Mae'r Cyngor fel awdurdod cyhoeddus yn ddarostyngedig i nifer o ddarpariaethau deddfwriaethol o ran datgelu. Mae’r rhain yn cynnwys Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 1998. Mae’r ymrwymiadau a gyflwynir yn y ddeddfwriaeth yn gymwys i bob maes o'r Cyngor. Gan fod y Cyngor yn gweithredu ar strwythur adrannol ac mae gofynion diogelu data yn cyfyngu ar rannu gwybodaeth rhwng adrannau, prif ddeiliaid y wybodaeth yw'r meysydd gwasanaeth perthnasol. Ni chaiff y wybodaeth y byddwch yn ei darparu isod ei rhannu’n allanol.