Cost of Living Support Icon

Pobl ag anableddau

 

Os ydych chi, neu unrhyw un sy’n byw gyda chi, angen ystafell, ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol, neu fwy o le yn eich eiddo i ddiwallu anghenion sy’n codi oherwydd anabledd, mae’n bosib y byddwch yn gallu hawlio gostyngiad yn eich Treth Cyngor.

 

Mae’n bosib y bydd y gostyngiad yn golygu y bydd eich eiddo’n cael ei symud i lawr un band i’r band sydd islaw eich band presennol. Os ydy’r eiddo yn perthyn i’r band isaf un (A) yna mae’n bosib y byddwch yn cael gostyngiad. Mae’r gostyngiadau yma’n sicrhau na fydd pobl anabl yn talu mwy o dreth oherwydd bod angen mwy o le arnyn nhw oherwydd eu hanabledd.

 

Cewch ragor o fanylion gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

Ffurflen gais ar gyfer cael gostyngiad yn Nhreth y Cyngor am fod y person wedi gorfod addasu’r eiddo oherwydd anabledd.

Gofynnwch i bobl ddangos prawf o bwy ydynt cyn eu gadael I mewn –Mae cerdyn adnabod gan bob un o’n Swyddogion.

Er diogelwch y swyddogion, dylai pob ci (ac eithrio cŵn cymorth) gael ei glymu a’i gadw mewn lle ar wahân yn ystod yr ymweliad.