Cost of Living Support Icon

Safonau’r Iaith Gymraeg 

Mae’r Cyngor wedi gweithredu tri Chynllun Iaith dros y deng mlynedd diwethaf, ac mae wedi ymrwymo i barhau i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i siaradwyr Cymraeg yn yr ardal.

 

Yn sgil cyflwyno Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyflwyno Hysbysiad Cydymffurfiaeth cyfreithiol i bob Cyngor. Mae ein hysbysiad yn manylu ar y modd mae’n ofynnol i ni ddarparu a gwella gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg. 

 

Hysbysiad Cydymffurfio

Mae’r hysbysiad cydymffurfiaeth yn crynhoi’r safonau y mae’n rhaid i’r Cyngor gydymffurfio â nhw. 

Cynllun Gweithredu

Mae cynllun gweithredu wedi cael ei lunio er mwyn cyflawni’r gofynion.  

Strategaeth Hybu'r Gymraeg

Mae’r Cyngor wedi cynhyrchu strategaeth 5 mlynedd newydd i hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y Fro.

 

Trefniadau monitro

Mae’r cynlluniau gweithredu mewn perthynas â gweithredu cydymffurfiaeth a’r Strategaeth Hyrwyddo yn cael eu hadolygu’n fisol a chaiff Adroddiad Monitro Blynyddol ei gynhyrchu ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg.

Gweithdrefn Cwynion 

Mae croeso i unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd ag ymholiad neu gwynion gysylltu â Elyn Hannah neu Hannah Rapa yn y lle cyntaf. Manylion cyswllt isod.

 

 

 

  • Y wefan 
    Dyma gyfeiriad y wefan Gymraeg www.bromorgannwg.gov.uk 
  • Y Ganolfan Gyswllt (C1V) 

    Rydyn ni’n darparu gwasanaeth yn Gymraeg i ateb y rhan fwyaf o’ch ymholiadau yn Gymraeg ar unwaith, heb orfod eich trosglwyddo i nifer o adrannau gwahanol.

     

    Un rhif sydd, sef 01446 700111. Gwasgwch 1 i siarad â chynrychiolydd sy’n siarad Cymraeg.  

  •  Cyhoeddiadau
    Mae canllawiau wedi cael eu dosbarthu i’n staff ar gyfieithu cyhoeddiadau i’r Gymraeg yma: Canllawiau Cyhoeddiadau yn Gymraeg
  • Y Cyfryngau Cymdeithasol 

    Rydyn ni’n rhannu newyddion a diweddariadau ar Facebook a Twitter. Dyma’r dolenni Cymraeg:  

     

    Twitter: @CBroMorgannwg 

     Facebook: Cyngor Bro Morgannwg 

 

 

 

Adroddiadau Monitro Blynyddol 

Mae adroddiadau monitro blynyddol ein Cynlluniau Iaith Gymraeg blaenorol ar gael isod: 

 

 

Rydyn ni’n croesawu adborth gan ein trigolion am unrhyw agwedd ar ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg: 

 

Elyn Hannah, Swyddog Cydraddoldeb a'r Iaith Gymraeg

Hannah Rapa, Swyddog Cyfathrebu