Cost of Living Support Icon

Troseddau Casineb 

Gall troseddau casineb ddigwydd ar ffurf ymosodiadau corfforol neu lafar, bygythiadau neu sarhad. Maent yn cael eu sbarduno gan hil, lliw croen, tarddiad ethnig, rhyw neu hunaniaeth rywiol, rhywioldeb neu anabledd y dioddefwr. 

 

Yn ein tyb ni, mae troseddau casineb yn weithredoedd troseddol a ganfyddir gan y dioddefwr i fod wedi cael eu sbarduno gan ragfarn a chasineb. 

 

Sicrhewch fod pob digwyddiad yn cael ei gofnodi, waeth le mae’n digwydd a phwy sy’n ei gyflawni.  

 

Efallai fyddwch chi’n credu na chaiff dim ei wneud oherwydd natur y digwyddiad, er enghraifft, os ydych chi’n digwydd clywed sarhad hiliol ond heb weld y troseddwr. 

 

Mewn achos o’r fath, a fuasech cystal â sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gofnodi? Mae’n bosib ei fod yn digwydd yn rheolaidd, ac wrth ddweud wrthon ni amdano, byddwch yn ein galluogi i adnabod patrymau ymddygiad a chlustnodi’r adnoddau perthnasol iddynt. 

 

Victim-Support-logo

Adrodd Troseddau Casineb 

Gallwch chi roi gwybod i ni am drosedd casineb drwy fynd i wefan

 

Cymorth i Ddioddefwyr Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod wedi dioddef trosedd casineb, gwnewch yn siŵr ei bod yn cael ei chofnodi. Mae’n hanfodol ein bod yn gwybod beth yw nifer, math ac ystod digwyddiadau o’r fath yn y Fro er mwyn i ni dargedu’r adnoddau sydd gennym at fynd i’r afael â nhw. 

 

Cymorth i Ddioddefwyr