Cost of Living Support Icon

Cynhalwyr sy’n Gweithio 

Mae ein polisi cynhalwyr yn cynnwys nifer o fuddion i weithwyr yn amodol ar yr amgylchiadau unigol

 

Nod y polisi hwn yw gofalu am anghenion cynhalwyr sy’n gweithio i Gyngor Bro Morgannwg. Mae’n fwriad gan y Cyngor i gefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofal a’u galluogi i gloriannu’r rhain yn effeithlon â’u cyfrifoldebau yn y gwaith.

 

Ymhlith buddion cynnig gweithle sy’n gyfeillgar i gynhalwyr mae:

  • Mynediad i adnoddau e-bost a ffôn
  • Cyfnodau rhydd o’r swyddfa
  • Cynllun saib i’r yrfa
  • Adnoddau gwaith hyblyg
  • Caniatâd am absenoldeb arbennig
  • Caniatâd am absenoldeb di-dâl
  • Gweithio gartref

 

Nod y polisi hwn yw darparu fframwaith a fydd yn cefnogi gweithwyr i aros yn eu swydd ac i gynnig trefniadau gwaith hyblyg.

 

 

Mae Gweithgor Cynhalwyr mewn Cyflogaeth wedi cael ei sefydlu i ofyn barn cynhalwyr a monitro gweithrediad y polisi hwn.