Cost of Living Support Icon

Sut i Hawlio

Rhaid i chi lenwi ffurflen gais er mwyn cael eich ystyried ar gyfer Budd-dal Tai a/neu Ostyngiad y Dreth Gyngor

 

Os ydych yn gwneud cais am Cymhorthdal Incwm / Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar incwm) neu Lwfans Cymorth Cyflogaeth yna dim ond yn y Ganolfan Byd Gwaith y gallwch wneud eich cais cychwynnol am Fudd-dal Tai. Os ydych yn dymuno hawlio Budd-dal Tai / Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor yna peidiwch ag oedi gan y bydd eich cais fel arfer yn dechrau ar y dydd Llun cyntaf wedi i ni dderbyn eich ffurflen gais.

  • Peidiwch ag oedi dychwelyd y ffurflen os nad yw’r wybodaeth ychwanegol sydd ei angen arnom gennych.
  • Gallwch yrru eich dogfennau yn ddiweddarach.

Cyn i chi hawlio:

  • Oes mwy na £16,000 gennych chi a/neu eich partner mewn cynilon/cyfalaf? Os felly yna ni fydd hawl gennych i dderbyn Budd-dal Tai / Cynllun Gostyngiad y Dreth Incwm (oni bai eich bod yn derbyn credyd wedi ei warantu)
  • A ydych yn byw gyda’ch rhieni/berthynas agos arall? Os felly yna ni fydd hawl gennych i dderbyn Budd-dal Tai / Cynllun Gostyngiad y Dreth Incwm
  • A ydych yn talu rhent ar yr eiddo yr ydych yn byw ynddo? Os na, ni allwch hawlio Budd-dal Tai.
  • A ydych yn gyfrifol am y Dreth Gyngor yn eich eiddo (a yw’r Bil yn eich enw chi neu eich partner)? Os na, yna ni fydd modd i chi hawlio dan Gynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor.

 

Yr hyn y dylech ei gynnwys gyda’ch ffurflen gais:

  • Dull adnabod ar eich cyfer chi ac unrhyw bartner (slip cyflog, llyfrau budd-dal, pasbort, trwyddedau gyrru ayb).
  • Praw o’ch Rhif Yswiriant Gwladol chi ac unrhyw bartner (llythyr dyfarnu Budd-dal, llyfr pensiwn, llyfr budd-dal ayb).
  • Prawf o’ch incwm a’ch cynilon chi ac unrhyw bartner
  • Prawf o unrhyw rent yr ydych yn ei dalu (Cytundeb Tenantiaeth, Llyfr Rhent, llythyr gan Landlord, ffurflen datganiad Landlord)
  • Prawf o unrhyw Fudd-dal Plant rydych yn ei dderbyn
  • Prawf o unrhyw incwm gan bobl eraill yn eich cartref os ydynt dros 18 oed a ddim ar eich llyfr Budd-dal Plant

 

Mae swm y budd-dal y bydd hawl gennych iddo yn dibynnu yn union ar gyfanswm eich incwm wythnosol a’ch amgylchiadau, er enghraifft, eich oed, maint eich teulu a pha un ai yw unrhyw un yn eich tŷ yn hen neu’n anabl.

Pan fyddwn wedi edrych yn ofalus ar eich incwm a’ch amgylchiadau, byddwn wedyn yn gwneud hafaliad.

 

A siarad yn gyffredinol, po uchaf eich incwm yna y lleiaf y byd y bydd eich budd-dal wythnosol. Mewn achosion penodol bydd modd talu'r cwbl o'ch rhent a'ch Treth Gyngor. Er enghraifft, os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar incwm), ac nad oes unrhyw oedolion yn byw gyda chi ag eithrio eich partner, yna mae’n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn Budd-dal Tai llawn a Gostyngiad y Dreth Gyngor. Mae’n bosibl na fydd Budd-dal Tai cymwys llawn yn cyfateb i’ch Rhent llawn.