Cost of Living Support Icon

Polisi Pobl Fregus

Mae’r rheoliadau’n caniatáu i daliadau gael eu gwneud yn uniongyrchol i landlord pan fo’r Awdurdod Lleol o’r farn bod y tenant yn debygol o gael trafferth rheoli ei faterion. 

 

Bwriad y polisi hwn yw atal tenantiaid sy’n debygol o brofi anawsterau rhag cronni ôl-ddyledion rhent a’u hatal rhag bod mewn perygl o gael eu troi allan.  Bydd hefyd yn helpu i gynnal tenantiaethau ar gyfer tenantiaid sy’n agored i niwed.  Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i landlordiaid y telir eu rhent os oes ganddyn nhw denantiaid sy’n agored i niwed neu os bydd tenantiaid sy’n agored i niwed yn cysylltu â nhw am le i fyw.

 

O dan y cynllun Lwfans Tai Lleol (LTLl), ni all tenant ofyn i’w daliadau gael eu gwneud i’r landlord.  I amddiffyn tenantiaid sy’n agored i niwed, bydd y cyngor yn defnyddio disgresiwn i dalu’r landlord.  Mae’r polisi hwn yn nodi’r canllawiau a ddefnyddir gan swyddogion i wneud penderfyniadau.

 

Os hoffech chi wneud cais i sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud yn uniongyrchol i’ch Landlord ac os ydych chi’n bodloni’r meini’r prawf, llenwch y Ffurflen Agored i Niwed:

 

 

Nodau ac Amcanion


  • Darparu dull diogelu ar gyfer y tenantiaid sydd fwyaf agored i niwed a rhoi sicrwydd iddynt y caiff eu budd-daliadau a’u rhent eu talu 
  • Helpu i atal ôl-ddyledion rhent ac atal tenantiaid rhag cael eu rhoi mewn perygl o gael eu troi allan 
  • Helpu i gynnal tenantiaethau ar gyfer tenantiaid sy’n agored i niwed
  • Rhoi sicrwydd i landlordiaid y telir eu rhent os oes ganddyn nhw denantiaid sy’n agored i niwed neu os bydd tenantiaid sy’n agored i niwed yn cysylltu â nhw am le i fyw 
  • Helpu i roi tenantiaid mewn cysylltiad ag asiantaethau eraill pan fo angen a rhoi’r cyfle i bobl allu rheoli eu materion eu hunain a’u cefnogi i wneud hynny 
  • Sicrhau bod swyddogion y cyngor yn gwneud penderfyniadau cyson, teg a chyfrifol 
  • Hyrwyddo proses dryloyw a syml a deallir yn eang 
  • Trin pob achos ar ei ben ei hun ac osgoi gwneud rhagdybiaethau am sefyllfaoedd pobl 
          Nid yw’r polisi wedi’i gynllunio i:

  • Ddisodli cymorth a dderbynnir gan denantiaid a’u helpu nhw i fod yn gyfrifol am eu hincwm a’u gwariant eu hunain 
  • Bod yn bolisi cyffredinol ar gyfer asiantaethau sy’n darparu cymorth i denantiaid preifat 
  • Cael ei ddefnyddio gan landlordiaid i osgoi nodau’r Lwfans Tai Lleol  

 

Gweithdrefn 

Rhybuddio’r cyngor am unrhyw achos o fod yn agored i niwed.

 

Y tenant neu ei gynrychiolydd yn tynnu sylw’r cyngor at y ffaith y byddai’n well ganddo i’w Lwfans Tai Lleol gael ei dalu i’r landlord.  Mae angen cefnogi’r cais â thystiolaeth ysgrifenedig gan drydydd parti, ond i gychwyn, gellir defnyddio:

 

  • Llythyr/ e-bost
  • Ffurflen Gais Agored i Niwed

 

 

Casglu gwybodaeth a thystiolaeth

Bydd swyddogion yn ystyried yr wybodaeth a dderbyniwyd a pha un a oes digon o dystiolaeth i wneud penderfyniadau priodol.  Ystyrir tystiolaeth o bob ffynhonnell yn ôl ei theilyngdod.

 

Ni ellir derbyn tystiolaeth gan landlord ar ei phen ei hun

 

Gwneud penderfyniad 

Bydd un o ddau benderfyniad yn cael ei argymell a’i gymeradwyo gan y Rheolwr Budd-daliadau:

  • Mae’r tenant yn agored i niwed a chaiff taliad Lwfans Tai Lleol ei wneud i’r landlord.
  • Nid yw’r tenant yn agored i niwed a chaiff taliad Lwfans Tai Lleol ei wneud i’r tenant.

 

Hysbysu Partïon yr Effeithir Arnynt

Ysgrifennir at y tenant a/neu ei gynrychiolydd a rhoi gwybod iddo am y canlynol: 

  • Y penderfyniad
  • Os caiff y penderfyniad ei adolygu a pha bryd 
  • Hawliau apelio
  • Manylion cyswllt ar gyfer y CAB a all eu helpu 

 

Ysgrifennir at y landlord hefyd a rhoi gwybod iddo:

  • Os canfu bod ei denant yn agored i niwed ac os bydd y cyngor yn talu’r Lwfans Tai Lleol iddo hyd at y rhent cytundebol 
  • Os caiff y penderfyniad ei adolygu a pha bryd 
  • Bod angen ei fanylion banc os nad ydynt wedi’u derbyn yn flaenorol 
  • Os canfu nad yw ei denant yn agored i niwed, beth yw hawliau apelio’r landlord yn erbyn y penderfyniad hwn

 

Enghreifftiau o fod yn Agored i Niwed 

Gall y rhesymau pam efallai y byddwn ni’n talu’r landlord yn lle’r tenant, gynnwys:

  • Mae gan y tenant gyflwr meddygol (sy’n effeithio ar ei iechyd meddyliol neu gorfforol) 
  • Mae ganddo anabledd dysgu neu anabledd corfforol 
  • Nid yw’n siarad Saesneg fel ei iaith gyntaf 
  • Mae’n mynd drwy gyfnod o newid sy’n golygu bod y tenant angen rhywfaint o gymorth ychwanegol 
  • Mae’n ymdrin â dibyniaeth (i alcohol neu gyffuriau) 
  • Mae ganddo broblemau dyled difrifol e.e. Dyfarniadau Llys y Sir, mae’n fethdalwr neu mae ganddo statws credyd gwael sy’n ei atal rhag cael cyfrif banc. 

Hyd yn oed os yw tenant yn dod o dan unrhyw un o’r categorïau hyn, nid yw’n golygu y bydd taliadau’n sicr yn mynd yn uniongyrchol i’r landlord.  Ystyrir pob cais yn unigol.