Cost of Living Support Icon

Gordaliadau Budd-dal Tai

Gordaliad Budd-dal Tai yw unrhyw swm o Fudd-dal tai a dalwyd neu sy’n ymwneud â hawlydd nad oedd ganddo ef/hi hawl i’w dderbyn

 

Caiff Gordaliadau eu creu fel rheol yn dilyn adolygiad o hawl i fudd-dal.

 

Gall Gordaliadau gael eu creu wrth fethu ag adrodd ar newid mewn amgylchiadau, oedi wrth brosesu newid mewn amgylchiadau, darparu gwybodaeth anghywir, camgymeriadau a wnaed gan yr Awdurdod Lleol neu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

 

Mae modd adennill y rhan fwyaf o ordaliadau, waeth beth fo achos y gordaliad. Os achoswyd y gordaliad gan gamliwio neu fethu â datgelu gwybodaeth rhaid adfer y gordaliad gan y person oedd yn gyfrifol am y camliwio neu a fethodd â datgelu’r wybodaeth honno.

 

Mae’n bosibl na ellir adfer gordaliadau gaiff eu creu gan ‘gamgymeriad swyddogol’, oni bai ei bod yn rhesymol i’r tenant neu’r landlord fod wedi gwybod eu bod yn cael eu gordalu. Caiff pob achos ei ystyried ar wahân.

 

Adfer Gordaliad

Os ydych yn dal i gael Budd-dal Tai byddwn yn adfer y gordaliad drwy leihau swm y budd-dal y mae hawl gennych arno tan i’r gordaliad gael ei adfer. Y Llywodraeth sy’n gosod y swm y gallwn ei roi i leihau eich budd-dal. Bydd y swm yn uwch os caiff eich gordaliad ei bennu fel un twyllodrus. Caiff llythyr ei yrru atoch yn manylu ar faint y byddwn yn ei adfer.

 

Os nad ydych yn derbyn budd-dal tai mwyach byddwn yn gyrru anfoneb atoch i’w dalu. Bydd yr anfoneb yn dangos:

 

  • Am beth y mae a’r swm sy’n ddyledus
  • Dyled ariannol pwy yw hi
  • Sut i wneud taliad
  • Sut i gysylltu â ni

Sut i Dalu

Ein nod yw gwneud y broses o dalu mor gyfleus a phosibl drwy gydweddu â’ch trefniadau cyllidebu personol chi a’ch helpu i osgoi gorfod teithio yn unswydd er mwyn talu biliau.  Gallwch dalu gordaliadau Budd-dal tai yn y canlynol:

 

Taliadau ar-lein 

 

Yn Swyddfeydd y Cyngor

Mae modd gwneud taliad yn Swyddfa Ariannol y Cyngor, a hynny am ddim, drwy gymryd yr anfoneb neu’r talebau rhan-dalu â chod bar arnynt i’r Swyddfeydd Dinesig yn y Barri*

 

Cyfeiriadau i'r Swyddfeydd Dinesig

Yn y Swyddfa Bost

Mae modd gwneud taliad, am ddim, drwy gymryd yr anfoneb neu’r talebau rhandalu â chod bar arnynt i unrhyw Swyddfa Bost.

 

Teclyn dod o hyd i gangen

Mewn Paypoint

Mae modd gwneud taliad, am ddim, drwy gymryd yr anfoneb neu’r talebau rhandalu â chod bar arnynt i leoliadau Paypoint:

 

Paypoint

Ar y ffôn

Talwch â cherdyn debyd neu gredyd dros y ffôn*

 

  • 01446 709241/5

 

Taliadau Awtomataidd 24 awr

Talwch drwy gyfrwng y system dalu awtomataidd 24 awr:

 

  • 01446 736815

 Dydd Llun i Ddydd Iau: 8:45am - 4:30pm / Dydd Gwener: 8:45am – 4:00pm

  • Beth os na allaf fforddio talu’r gordaliad mewn un cynnig?

    Mewn ambell achos gallwn drafod lefel ymarferol o dalu yn ôl dros gyfnod hwy o amser (drwy daliadau rheolaidd llai dyweder). Byddwn yn eich cymell i geisio cyngor annibynnol os oes problemau dyled lluosog gennych. Wrth osod symiau ad-dalu, byddwn yn ystyried:

     - Argymhellion gan asiantaethau cynghori cydnabyddedig

     - Unrhyw wybodaeth a rowch i ni ar gyfanswm eich dyledion

     - Eich ymrwymiadau i’r rhai sy’n ddibynnol arnoch

  • Beth fydd yn digwydd os na dalaf y gordaliad? 

    Os ydym wedi dilyn ein gweithdrefnau a bod dyled arnoch o hyd, mae’n bosib yr awn drwy’r llysoedd i adfer y ddyled.

    Bydd Gorchymyn Llys Sirol yn eich erbyn yn ein galluogi ni i :

     - Defnyddio atafaelu enillion

     - Defnyddio beilïau i gasglu’r gordaliad

     - I roi gorchymyn arwystlo ar eich tŷ os mai chi sydd berchen arno neu â morgais arno.

     - I osod gorchymyn dyled trydydd parti yn erbyn unrhyw arian sydd gennych

    Os bydd yn rhaid i ni wneud cais Gorchymyn Llys Sirol, byddwn yn ychwanegu costau i’ch gordaliad chi a bydd rhaid i chi dalu’r costau hyn yn ogystal â’r gordaliad gwreiddiol.

     

 

 

www.moneyadviceservice.org.uk   www.communitylegaladvice.org.uk   www.nowletstalkmoney.com

 

 

Rheolaeth Incwm a Thaliadau

Trydydd Llawr

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holltwn

Y Barri

CF63 4RU