Cost of Living Support Icon

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn cymryd lle hawliadau newydd am nifer o fudd-daliadau

    • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm

  • Cymhorthdal Incwm

    • Credyd Treth Plant
    • Credyd Treth Gwaith
    • Budd-dal Tai

 

Pan fyddwch yn gwneud hawliad am Gredyd Cynhwysol yn lle un neu fwy o’r uchod byddwch yn cael un tâl misol a fydd yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc. 

 

Y nod yw helpu’r rhai sy’n chwilio am waith neu ar incwm isel.

 

Mae rhai eithriadau pan fydd yn dal angen i chi hawlio Budd-dal Tai. Mewn rhai amgylchiadau, os oes gennych dri phlentyn neu fwy, os ydych mewn llety dros dro, wedi cael eich lleoli mewn Adran Ddigartrefedd, neu’n byw mewn llety, pan fyddwch yn cael cymorth ychwanegol wrth fyw yn yr eiddo hwnnw (gelwir hyn yn Llety Penodedig). 

 

Os ydych eisoes yn derbyn un neu fwy o’r budd-daliadau canlynol, byddant yn parhau tan fydd newid perthnasol yn eich amgylchiadau yn golygu bod angen i chi wneud hawliad newydd ar gyfer Credyd Cynhwysol.

 

 

  • Beth sy’n digwydd os na allaf wneud hawliad ar-lein?

    Mae Credyd Cynhwysol yn hawliad ar-lein ac mae angen ei reoli ar-lein hefyd.   Gallwn gynnig rhywfaint o gymorth i roi gwybod lle gallwch fynd i ddefnyddio’r we os na allwch wneud hynny gartref neu os oes angen cymorth arnoch.  I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01446 709244 neu e-bostiwch benefits@valeofglamorgan.gov.uk.  Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn gallu eich cynghori chi hefyd.

 

  • Rydw i bob tro wedi cael taliadau wythnosol ac nid ydw i erioed wedi cyllido ar gyfer taliadau misol

    Mae’n bosibl y gallwn gynnig rhywfaint o gyngor ar gyllido i chi os ydych ei angen.  Cysylltwch â ni ar 01446 709244 neu e-bostiwch benefits@valeofglamorgan.gov.uk a gallwn drefnu apwyntiad i chi.

     

    Fel arall, mae llawer o gyngor ar gyllido ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Ariannol.

     

 

  • Ni allaf aros 6 wythnos cyn cael taliad. Sut gallaf ymdopi?

    Gallwch ofyn am gael blaendal ar eich Credyd Cynhwysol, sef hyd at 100% o’r swm y disgwylir ei roi i chi, a bydd hyn yn cael ei dynnu oddi wrth eich swm Credyd Cynhwysol parhaus.

     

     

     

    Cael rhan o'ch taliad cyntaf yn gynna

 

  • Mae gen i ddiffyg ar fy rhent ar ôl i’r Credyd Cynhwysol dalu am fy nghostau tai.

    Mae Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn ar gyfer pobl sydd naill ai’n derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol sy’n cynnwys elfen dai, ac mae angen help ychwanegol arnynt i dalu eu rhent.  Dim ond swm cyfyngedig o arian sydd yn y gronfa i wneud y taliadau hyn ac felly eu bwriad yw bod yn help yn y tymor byr yn unig. 

     

     

     

    Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn

 

  • A fydd Credyd Cynhwysol yn cyfrannu at fy mil Treth Gyngor?

    Bydd angen i chi hawlio Gostyngiad y Dreth Gyngor gan eich Awdurdod Lleol, gan nad yw’n rhan o’r Credyd Cynhwysol.  

     

     

    Hawlio Gostyngiad y Dreth Gyngor