Top

Brig

Ceisiadau i Ffilmio

Mae Bro Morgannwg yn lle perffaith i ffilmio.  Mae’r sir yn enwog am ei phorfeydd gwyrddion, arfordir  a thraethau treftadaeth creigiog, a threfi lliwgar.

 

Mae gan y Fro dirwedd ac adeiladau amrywiol sy’n addas at amrywiaeth o anghenion setiau penodol.

 

Mae cwmnïau’n defnyddio nifer o leoliadau’n rheolaidd. Ymhlith y rhaglenni a ffilmiwyd yma mae Gavin & Stacey, Doctor Who, Torchwood, Tracey Beaker, MerlinPobol y Cwm.

 

 

  • Pier Penarth
    Penarthpier

    Pier Fictoraidd prydferth â nodweddion traddodiadol. Fe’i adeiladwyd ym 1894, gan agor flwyddyn yn ddiweddarach. Mae’r pier 658 troedfedd o hyd yn atgof o oes fwynach, ac yn un o ddau bier pleser sy’n dal i fod yn ne Nghymru.

     

     

    Gweld ar Fap

     

     

  • Ynys y Barri

    Barry IslandCyrchfan glan môr draddodiadol a gwych â ffair, arcêd, traeth tywod a phromenâd dwyreiniol ar ei newydd wedd gyda wal dynnu.

     

     

    Gweld ar Fap

     

  • Parc Porthceri

    Porthkerry Country ParkParc gwledig 220 erw o goed a dolydd, yn edrych dros Fôr Hafren, gyda thraphont Fictoraidd drawiadol.
     
    Mae gan y parc nifer o lwybrau natur, safleoedd picnic, caffi, ardal chwarae, ardaloedd barbeciw a chwrs golff bach.

     

     

    Gweld ar Fap

     

  • Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston
    Aerial view of Cosmeston

    Mae gan y parc gwledig amrywiaeth o gynefinoedd yn ymestyn dros 100 hectar o dir a dŵr, gyda rhai ardaloedd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy’n gwarchod anifeiliaid a phlanhigion prin ac amrywiol.
     
    Mae llwybrau graean a phromenâd pren sy’n ei gwneud yn hawdd i grwydro’r parc.

     

     

    View on Map

     

  •  Pentref Canoloesol Llynnoedd Cosmeston

    Cosmeston Medieval VillageYm Mharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston mae pentref ar ffurf pentref o’r 14eg Ganrif, a godwyd ar safle hen bentref canoloesol sy’n cynnwys adeiladau a gerddi canoloesol.
     
    Mae modd ffilmio cynyrchiadau mawr a bach ym mhentref canoloesol Cosmeston, ac mae modd parcio unedau ffilmio ar y safle. I drafod cynigion ac amodau llogi’r pentref canoloesol, cysylltwch â’r ganolfan ymwelwyr.

     

     

    Gweld ar Fap

     

  • Arfordir

    Vale-Heritage-CoastMae Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn ymestyn 14 milltir, o Aberddawan i Borthcawl gyda chlogwyni cadarn, cildraethau cudd a golygfeydd anhygoel. Atyniad angenrheidiol i gerddwyr, beicwyr ac unrhyw un sy’n caru cefn gwlad.
     
    Mae taith Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn daith arbennig heibio i dwyni, clogwyni a childraethau sy’n llawn bywyd gwyllt ac yn gyforiog o hanes.

     

     

    Gweld ar Fap

     

  • Parcio

    Belle Vue Park PenarthMae ystod o barciau trefol yn y Barri, Penarth, Dinas Powys, Llanilltud Fawr a’r Rhws.

     

     

     

     

  • Swyddfa’r Dociau a Neuadd y Dref, Y Barri

    Docks OfficeMae gan Swyddfa’r Dociau risiau ysblennydd ac ystafell fwrdd Fictoraidd grand.

     

     

    Gweld ar Fap

     

     

  • Ysgolion

    Dinas School

    Amrywiaeth o ysgolion Modern a Fictoraidd ledled Bro Morgannwg Meithrinfeydd, Ysgolion ac Ysgolion Cyfun.

     

     

     

     

  • Stadiwm Parc Jenner

    Jenner Goal, Pitch & StandCartref Clwb Pêl-droed y Barri, gyda thrac athletau a dau eisteddle. Cae 3G.

     

     

    Gweld ar Fap

     

     

  • Priffyrdd a meysydd parcio

    Nells Point Car Park

    Ffilmio ar briffordd Bro Morgannwg a ffilmio a pharcio ym meysydd parcio'r cyngor.

     

  • Adeiladau Diwydiannol
    Pump House

 

 

Ffioedd Lleoliad

Mae ffioedd yn dibynnu ar ba eiddo Cyngor a ddefnyddir, ac unrhyw gyfleusterau ychwanegol sydd eu hangen. Mae hefyd ffi i baratoi trwydded ffilmio.

 

Mae’r Adran Priffyrdd yn codi ffi cyfleusterau ar gyfer ffilmio ar y briffordd.  Rhaid talu cyn dechrau ffilmio. Ceidw’r Cyngor yr hawl i godi ffioedd canslo, i dalu am drefniadau canslo.
 
Ni chodir ffioedd am adroddiadau newyddion na chyfweliadau.
 
Ni chodir ffioedd ar fyfyrwyr sy’n gwneud ffilmio fel rhan o’u hastudiaethau academaidd, nac i elusennau cofrestredig sy’n gwneud ffilmiau i gefnogi eu gweithgareddau.

 

Bydd y Cyngor yn gwneud y canlynol:

  • Cofnodi’r ffilmio a gynigir i sicrhau nad oes gwrthdaro wrth ddefnyddio’r ardal i’r graddau y bo hynny’n bosibl
  • Os yn bosibl, rhoi gwybodaeth ategol a chefndirol drwy ei Ganolfannau Croeso
  • Os yn bosibl, cynnig mynediad rhesymol i gerbydau a llefydd parcio i gerbydau ffilmio/ategol
  • Cynorthwyo wrth ddod o hyd i safle addas os yn bosibl

 

Criw lleol a lleoliadau nad ydynt ym meddiant y Cyngor yn y Fro

Gall Comisiwn Sgrîn Cymru helpu cwmnïau cynhyrchu i ddod o hyd i griw lleol a gwasanaethau cymorth, a rhoi cyngor ar leoliadau yn y Fro nad ydynt ym meddiant y Cyngor.  Ffoniwch Swyddfa De Cymru ar:

  • +44 (0) 29 2044 4241 / + 44 (0) 7816 452 096