Top

Brig

Isle of Fire yn dychwelyd i Ynys y Barri

19 Gorffennaf 2016

Mae’r digwyddiad poblogaidd a phrydferth yn dychwelyd i Ynys y Barri y penwythnos hwn, i droi’r Ynys yn fôr o dân.

Isle of Fire 2014 - fire garden

Bydd yr Isle of Fire yn dod yn fyw dan oleuadau a synau Spark!  Dyma ddrymwyr disglair a dawnus, gyda choreograffi gwych a gwisgoedd llachar y mae'n rhaid eu gweld!


Yn ychwanegol i’r Ardd Dân eleni mae’r Crochan Tân.   Bydd hwn yn syfrdanu’r dorf wrth iddo wneud ei ffordd i lawr y promenâd drwy gydol digwyddiadau’r noson. 


Mae’r digwyddiad am ddim ac yn dechrau am 9pm.  Dyma fydd dechrau rhaglen Penwythnosau Ynys y Barri - 6 phenwythnos o hwyl am ddim i'r holl deulu yn Ynys y Barri.


I gael mwy o wybodaeth, ewch i http://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/enjoying/visit_the_vale/whats_on/whats_on.  

Rhannu Hoffi