Pythefnos ar ôl i rieni gael dweud eu dweud ar gynllun arfaethedig i fuddsoddi £44m mewn ysgolion
4 Hydref 2016
Pythefnos sy’n weddill cyn diwedd cyfnod ymgynghori cyhoeddus Cyngor Bro Morgannwg ar gynnig a allai weld £44m yn cael ei fuddsoddi mewn dwy ysgol uwchradd rhyw gymysg yn Y Barri.
Dechreuodd yr ymgynghoriad a fydd yn pennu dyfodol Ysgol Gyfun y Barri ac Ysgol Gyfun Bryn Hafren ddechrau mis Medi a bydd yn dod i ben ar 17 Hydref.
Mae £11.5m wedi’i glustnodi ar gyfer cyfleusterau newydd a buddsoddiad yn yr adeiladau sydd ar safle Ysgol Bryn Hafren ac mae £32.5m wedi’i glustnodi ar gyfer adeilad ysgol newydd a Chanolfan Rhagoriaeth Ymddygiadol ar safle Ysgol Uwchradd Y Barri.
Dywedodd y Cyng. Lis Burnett, Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg: “Gwyddom fod rhieni a disgyblion yn frwd dros ddyfodol addysg cyfrwng Saesneg yn y Barri ac felly yn annog pawb sydd heb wneud hynny eisoes i gael dweud eu dweud cyn cau’r ymgynghoriad fis nesaf.”
Os yw’r rhieni a’r disgyblion yn dangos cefnogaeth, bydd yr ysgolion newydd, a fydd yn cymryd lle Ysgol Uwchradd Y Barri ac Ysgol Uwchradd rhyw sengl Bryn Hafren, yn agor ym mis Medi 2018.
Byddai gan y ddwy ysgol newydd leoedd i 1100 yr un. Gan fod yr ysgolion presennol yn rhannu’r un dalgylch, byddai creu dwy ysgol rhyw gymysg newydd yn golygu y caiff dalgylchoedd newydd eu sefydlu.
Mae’r ymgynghoriad ar agor i'r holl bartïon â diddordeb, gyda ffocws ar rieni, disgyblion, a staff. Gellir cyflwyno ymatebion ar-lein i www.valeofglamorgan.gov.uk/barryschools, yn ysgrifenedig, neu trwy ffonio canolfan gyswllt C1V y Cyngor.