Cost of Living Support Icon

Seisiynau beicio yn dechrau yn Cosmeston

 

12 Ebrill 2017


Dechreuodd cynllun beicio rhad ac am ddim yn Cosmeston y penwythnos diwethaf, a’i nod oedd cael mwy o ferched y Fro i ymarfer corff.


Cycling at CosmestonFel rhan o gynllun y Cyngor, Merched yn Ymarfer Corff, daeth nifer o ferched ifanc y Fro â’u helmedau a’u beiciau i’r sesiwn feicio ar gyfer lansio’r cwrs i ddechreuwyr.


Mae’r cwrs – sy’n cael ei gynnal bob dydd Sadwrn ym mis Ebrill rhwng 10:00am a 12:00pm – yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Beicio Cymru a Breeze Rides, ac yn cynnig cyfle i fenywod a merched dros 10 oed i wella eu sgiliau beicio mewn ardal gaeedig, cyn mynd ymlaen i feicio o amgylch Parc Cosmeston ei hun.


Dywedir bod y sesiynau yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno gwella eu hyder ar ei feic, ac anogir mamau a’u merched i fynychu.


Dylai unrhyw un sy’n dymuno cadw lle ar sesiwn gysylltu â thîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae y Cyngor ar 01446 704808, neu e-bostio Rachel Shepherd ar rshepherd@valeofglamorgan.gov.uk.


Sefydlwyd y cynllun Merched yn Ymarfer Corff er mwyn annog mwy o ferched i gymryd rhan yn fwy aml mewn chwaraeon, ac sydd wedi gweld y Cyngor yn cynnal sesiynau glowminton, rhedeg a dawnsio yn y gorffennol.