Cost of Living Support Icon

Cipolwg cyntaf ar y cynnig ar gyfer Eglwys St Paul

13 Ebrill 2017

Mae cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi fod Cymdeithas Tai Newydd wedi cael ei dewis fel y cynigydd a ffefrir i fynd i’r afael â datblygiad safle Eglwys St Paul ym Mhenarth. 


St Pauls DesignMae’r cynllun a gynigir gan Newydd yn adnodd cymunedol llawr gwaelod 300 metr sgwâr a datblygiad tai fforddiadwy. 

 

Nod y cynnig uchelgeisiol, y cafodd y ddelwedd gyntaf ohono ei rhyddhau heddiw, yw cwblhau datblygiad cynaliadwy deunydd cymysg sy’n cadw gwedd flaen yr eglwys, a thrwy hynny barchu’r teimlad o le lleol.


Dywedodd Paul Roberts, Prif Weithredwr Newydd: “Rydym yn falch dros ben o gael ein dewis fel y cynigydd a ffefrir gan y Cyngor ac rydym yn bwriadu cynnal digwyddiad ymgynghori i archwilio syniadau ar gyfer defnydd pellach ar yr adnodd ar y llawr gwaelod.”


Disgwylir cais cynllunio ar gyfer y datblygiad maes o law. Bydd hwn yn cael ei graffu gan bwyllgor cynllunio’r Cyngor cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud ar ddyfodol y safle.