Cost of Living Support Icon

Parc Jenner yn cynnal gŵyl bêl-droed i ysgolion cynradd

 

12 Ebrill 2017

 


Gwnaeth dros dau gant o ferched gymryd rhan yng Ngŵyl Pêl-droed Ysgolion Cynradd i Ferched Bro Morgannwg yn ddiweddar, gan ddangos bod mwy o ferched ifanc yn y Fro yn cymryd diddordeb mewn pêl-droed.

 

Daeth 14 o ysgolion y Fro a 10 o Gaerdydd i chwarae ar gaeau chwarae Parc Jenner, wrth i ystod o gemau anghystadleuol gael eu cynnal drwy’r dydd.

 

Wedi’i threfnu gan dîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg, mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-Droed Merched Y Barri, ni chofnodwyd unrhyw sgorau na chanlyniadau drwy’r gemau, gan mai creu amgylchedd hwylus a chymdeithasol oedd nod y diwrnod lle gallai'r disgyblion ddatblygu eu sgiliau a mwynhau'r gemau.

 

Mae’r tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae wedi nodi eu bod wedi gweld cynnydd yn nifer y merched yn cymryd rhan mewn pêl-droed dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, rhywbeth y maent wedi bod yn ceisio ei gyflawni gyda'r cynllun Girls on the Move, sydd wedi cynnal sesiynau glowminton a rhedeg i ferched ifanc ledled y Fro.

 

Gan fod cadeirydd CPD Merched Y Barri eisoes wedi dweud bod nifer calonogol o chwaraewyr wedi cysylltu ers cynnal y digwyddiad mwyaf i ysgolion erioed, mae disgwyl i'r nifer o ferched a fydd yn cymryd rhan mewn pêl-droed gynyddu eto.