Cost of Living Support Icon

Ymgyrch Glanhau Afon Porthceri yn Llwyddiant Mawr

Ymunodd dros 50 gwirfoddolwr o dimoedd Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Grŵp Afonydd Caerdydd a phobl o’r gymuned leol â Cheidwaid Cyngor Bro Morgannwg i lanhau’r afon ym Mharc Gwledig Porthceri.

 

Llwyddont i dynnu pob tamaid a oedd yn tagu’r afon a phob darn o ysbwriel er mwyn glanhau hyd Ffrwd y Barri (sy’n llifo trwy Gwm y Barri).  Cawsant wared ar y canlynol:

  • Tri theiar
  • Dwy ferfa
  • Dau danc dŵr
  • Cannoedd o weips wedi eu defnyddio

Casglont ddigon i lenwi 50 bag o ysbwriel a sgip enfawr.

 

Dywedodd Mel Stewart, y ceidwad:

“Fe weithiodd pawb mor galed, roedd y cwm yn edrych mor hardd. Fe hoffen ni ddiolch i'r gwirfoddolwyr a helpodd ar y dydd a gofynnwn i bobl ddefnyddio'r biniau er mwyn cadw'r nant yn glir yn y dyfodol."

Diolch i Ddŵr Cymru a Marco’s yn y parc a fu’n garedig wrth drefnu byrgyrs a chŵn poeth ar gyfer y gwirfoddolwyr.

 

Parc Gwledig Porthceri    Parthau'r Parc     Y Berllan Gymunedol     Porthordy'r Goedwig    Hanes Parc