Cost of Living Support Icon

Cynghorau ysgolion uwchradd yn mynychu cynhadledd llais disgblion flynddol

 

05 Ebrill 2017

 

Yn ddiweddar, bu i bump o ysgolion uwchradd Bro Morgannwg anfon aelodau cynghorau ysgol a staff i fynychu’r gynhadledd Llais Disgyblion flynyddol.

 

Pupil Voice Conference RAP photo 21 03 17Wedi’i chynnal yn Neuadd Goffa’r Barri tua diwedd mis Mawrth, dechreuodd y gynhadledd gydag aelodau’r cyngor yn rhoi adborth i ddisgyblion ar yr archwiliad cyngor ysgol diweddaraf. 


Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal archwiliad o bob cyngor ysgol ar sail bob yn ail blwyddyn er mwyn pennu lefel y gydymffurfiaeth â rheoliadau Llywodraeth Cymru ynghylch cynghorau ysgol, ac er mwyn annog ymarfer da.


Ar y diwrnod, cafodd disgyblion gyfle i ddysgu am hawliau plant a Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), pan gyflwynwyd cyflwyniad gan Genhadon Hawliau’r Fro i amlinellu rhai o’r 42 o hawliau sydd gan bob un plentyn a pherson ifanc yn y byd.  


Yn dilyn hyn, cafodd y rhai ifanc a fynychodd ddiweddariad ar beth mae Maer Ieuenctid y Fro a Dirprwy Maer Ieuenctid y Fro wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar, ac yna cawsom glywed am sut byddant yn cael eu heffeithio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o annog preswylwyr i weithio gyda'i gilydd, i ystyried y tymor hir (ynghyd â chanolbwyntio ar nawr), a chymryd camau i atal problemau bywyd rhag gwaethygu. 


Dywedodd Andrew Borsden, Swyddog Arweiniol Cynhwysiant Cymdeithasol a Llesiant Cyngor Bro Morgannwg: “Mae digwyddiad fel hwn yn hanfodol oherwydd mae’n rhoi cyfle i ddisgyblion y Fro gael dweud eu dweud ar faterion sydd ag effaith arnyn nhw.


“Drwy ymgysylltu gyda’n preswylwyr ifanc, rydym yn eu galluogi i fod yn fwy ymwybodol o’u hawliau, yn rhoi gwybod iddyn nhw am faterion a fydd yn effeithio arnyn nhw yn y dyfodol, ac yn rhoi llwyfan iddynt allu lleisio barn.


“Er enghraifft, cafodd disgyblion gyfle yn y digwyddiad hwn i drafod eu barn gyda swyddogion y Cyngor ynghylch sut dylai’r Fro weithredu'r cynllun gweithredu llesiant."


Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn hwyluso ymyriad pobl ifanc mewn prosesau democrataidd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan hefyd rhoi hyfforddiant i blant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol am gyfranogiad, llais disgyblion a’r CCUHP.