Cost of Living Support Icon

Rhybuddio preswylwyr y Fro am dwyll treth gyngor


26 Ebrill 2017

 

CAIFF preswylwyr eu rhybuddio am gynlluniau twyll sy'n honni y bydd ad-daliad treth gyngor, ac sy’n targedu’r henoed yn benodol.


Mae nifer o bensiynwyr y Fro wedi derbyn galwadau gan ddau gwmni gwahanol, yn gofyn am daliad er mwyn trefnu ad-daliad treth gyngor ar eu rhan.


Ystyrir bod y ddau sefydliad yn rhai twyllodrus a chaiff preswylwyr eu hannog i beidio â datgelu manylion banc nac unrhyw wybodaeth bersonol arall os yw rhywun yn cysylltu â nhw yn cynnig y fath wasanaeth.

 

CivicMae un cwmni’n galw eu hunain yn Shore Claims ac un arall yn Claims Solutions Brighton.


Maent yn gofyn am fanylion banc er mwyn gwneud taliad yn tro y maent yn honni y bydd yn eu galluogi i brosesu ad-daliad treth gyngor.


Mae hyn yn dilyn digwyddiadau tebyg y llynedd.
Gofynnir i unrhyw un y cysylltir â nhw fel hyn hysbysu’r heddlu a’r Cyngor, naill ai trwy ffonio 01446 709564 neu trwy e-bostio CouncilTax@valeofglamorgan.gov.uk


Ceir canllaw hefyd gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth. Y rhif ffôn yw 03454 040505.


Dywedodd cynrychiolydd y Cyngor: “Rydyn ni’n bryderus ar ôl clywed adroddiadau am bobl yn cysylltu â nifer o breswylwyr y Fro yn cynnig ad-daliad treth gyngor iddynt yn gyfnewid am dâl.


"Mae’n rhaid i ni bwysleisio mai twyll yw pob enghraifft o rywun yn cysylltu â chi felly ac ni ddylai pobl roi gwybodaeth bersonol mewn unrhyw amgylchiadau.”