Cost of Living Support Icon

Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bro Morgannwg yn ennill gwobr efydd

 

03 Ebrill 2017

 

Dyfarnwyd Nod Ansawdd Efydd am waith gydag ieuenctid yn ddiweddar i Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Bro Morgannwg – un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i dderbyn yr anrhydedd.

 

Cyflwynwyd y wobr mewn digwyddiad arbennig yng Ngwesty'r Angel yng Nghaerdydd ar ôl cynhadledd a agorwyd gan y Gweinidog dros y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes, Alun Davies.

 

bronze award

 

Ar ddiwedd y gynhadledd, cyflwynwyd y wobr i Wasanaeth Ieuenctid y Fro gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.


Penderfynwyd bod y gwasanaeth yn haeddu’r anrhydedd wedi i Louise Atkins o Atkins Associates gynnal asesiad ar eu gwaith. Dywedodd hi fod y tîm a’r bobl ifanc yn hynod groesawgar a bod y berthynas bositif rhyngddynt yn amlwg.


Roedd y bobl ifanc wedi sôn wrthi, yn onest ac yn angerddol, am effaith y Gwasanaeth Ieuenctid ar eu bywydau.


Mae’r Nod Ansawdd yn arwydd o ragoriaeth ac mae’n galluogi’r sefydliad i nodi ei gryfderau a’r meysydd sydd angen eu datblygu, gan felly sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion y bobl ifanc.


Ar adeg pan fo adnoddau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn lleihau, mae'n dystiolaeth gadarn o effaith ac effeithlonrwydd cost y gwasanaeth.


Dywedodd Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau, Bro Morgannwg: “Rwyf mor falch bod gwaith caled, agwedd gadarnhaol ac ymroddiad y Gwasanaeth Ieuenctid i wella canlyniadau ar gyfer pobl ifanc wedi eu cydnabod yn ffurfiol fel hyn.”