Cost of Living Support Icon

Ynys y Barri yn croesawu ymwelwyr o bell ac agos

 

01 Medi 2017

 

Neilltuodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd John Thomas a Maer Bro Morgannwg, y Cynghorydd Janice Charles, rywfaint o’u hamser yn ystod digwyddiad dinesig yn Ynys y Barri yn ddiweddar er mwyn croesawu dau grŵp cymunedol a oedd wedi teithio 200 milltir ar y cyd i gael diwrnod ar y traeth. 


Council Leader Cllr John Thomas and Mayor of the Vale of Glamorgan Cllr Janice Charles with members of a Bangladeshi community group from BirminghamRhoddodd yr arweinwyr dinesig, a oedd yno i ddathlu llwyddiant tîm parciau’r Cyngor am ennill saith gwobr baner werdd ar gyfer y Fro am yr ail flwyddyn yn olynol, ddwy araith o’r frest i grŵp cymunedol Bangladeshaidd o Birmingham a Grŵp Sgowtiaid 1af Llandrindod a oedd yn mwynhau diwrnod ar yr Ynys.

 

Daeth y grŵp Ektu Onnorokom ag wyth coets wedi’u llenwi â 400 o’i aelodau i’r Ynys yn rhan o ddiwrnod llawn hwyl i’r teulu yn ystod yr haf. 


Y gweithredydd cymunedol a’r cyflwynydd teledu Bangla Mokis Monsur sy’n byw yng Nghaerdydd oedd y gŵr gwadd yn y digwyddiad. 

 

Dywedodd: “Mae’r grŵp yn ymweld ag atyniadau gwahanol ledled y wlad a gwnes i argymell ei fod yn dod i Ynys y Barri gan ei bod yn lle gwych i blant a theuluoedd. Yn rhan o’r diwrnod llawn hwyl i’r teulu bu gweithgareddau chwaraeon, digwyddiad diwylliannol, seremoni wobrwyo, cinio ac wrth gwrs cafwyd llawer o hwyl ar y reidiau ac ar y traeth. Roeddem ni’n meddwl y byddai’n ddiwrnod gwych i bawb, ac roedd hynny’n sicr yn wir!”

 

Dywedodd y Cyng. Thomas: 


“Mae’n wych gweld bod gwaith caled ein timau rheoli cyrchfannau a thwristiaeth yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r wlad. Gallwn anghofio weithiau nad oes modd i bawb gyrraedd yr arfordir yn hawdd, a thrwy gwrdd â phobl a deithiodd am 4 awr i gael diwrnod ar y traeth, cawsom ein hatgoffa o ba mor lwcus ydyn ni fod gennym lan môr o'r radd flaenaf ar garreg ein drws." 

 

Children enjoying Barry Island beach