Cost of Living Support Icon

Allwch chi enwi Draig y digwyddiad O Goeden i Olwyn?

Cafodd pawb ddiwrnod gwych ddydd Mercher yn y digwyddiad O Goeden i Olwyn ym Mhorthceri i ddathlu gorffen gwaith adnewyddu Melin Lifio Cwm Cidi.

 

Dydd Gwener 18 Awst 2017

 

Mae’r gwaith hwn, a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (GDL), yn golygu bod y felin wedi’i hadfywio a bellach yn cynnwys paneli dehongli ac App Realiti Estynedig gwych sy'n dod â hanes yn fyw o'ch cwmpas.

 

Cafwyd llawer o arddangosiadau a gweithgareddau ar y diwrnod gan gynnwys arddangosiad cerfio gan ddefnyddio llif gadwyn, gweithdai ffyn pren a blodau, gwersi llifio pren a chyfle i goginio malws melys blasus. 

 

“ Am ddigwyddiad arbennig. Roedd fy nai wrth ei fodd â'r profiad a daeth adref gyda physgodyn wedi'i wehyddu â helyg, darn o goeden (a dorrwyd ganddo ef ei hun), darn o goeden wedi'i addurno a theilsen glai a addurnwyd ganddo. Yn fwy na dim, cawsom amser gwych yn y coed yn siarad â phobl mewn awyrgylch hyfryd. Mae wedi bod yn siarad am y peth drwy’r prynhawn! Diolch i chi am drefnu digwyddiad ardderchog.” 

 

Uchafbwynt y diwrnod oedd dwy daith gerdded hudol drwy’r coetir, lle’r aeth Lulu Whizzlegs, Ula (sy’n hoffi dawnsio'r Hwla) ac Azan Shoopard y Llyffant Gwair ati i drawsnewid y goedwig, gan roi arddangosiad trapîs, cyfle i swingio ar raff a chael te parti hudol. 


Dragon carvingDweud eich dweud

Aeth Chris Wood, o Wood Art Works, ati i greu cerflun arbennig o ben draig gan ddefnyddio llif gadwyn, ond yn anffodus ni chwblhawyd y ddraig o ganlyniad i ddiffyg cyllid, felly gwyliwch y gofod hwn!

 

Gyda’n draig breswyl newydd, rydym ni’n gofyn i’r cyhoedd feddwl am enw addas ar ei chyfer. Seiliwyd y ddraig ar fythau a chwedlau adnabyddus sy’n gysylltiedig â’r parc, lle dywedir bod sarff yn crwydro’r goedwig yn y nos!

 

Beth fyddwch chi’n galw eich draig chi...?

 

  • MJStewart@valeofglamorgan.gov.uk

 

Hoffai Mel Stewart, Ceidwad y Safle, ddiolch yn fawr iawn i’r holl wirfoddolwyr ac arddangoswyr a helpodd i gynnal diwrnod gwefreiddiol o weithgareddau - nid yw'r goedwig erioed wedi teimlo mor arbennig!

 

App Realiti Estynedig (RE) Parc Gwledig Porthceri 

Mae cymaint i’w weld a’i wneud ym Mharc Gwledig Porthceri, a bydd rhannau o’r parc yn dod yn fyw gyda'r app hwn wrth i chi gamu allan a chrwydro.

  • Gan ddefnyddio realiti estynedig (RE), gallwch gwrdd â Henry Ringham, y defnyddiwyd ei gwmni i drwsio’r draphont ar ôl iddi ddechrau dadfeilio 
  • Dysgwch am y diodydd hudol a grëwyd gan Ann Jenkin, gwrach Bwthyn Cliffwood, a’r ffordd y gallai fod wedi swyno pobl.  
  • Sylwch ar Felin Lifio Cwmcidi yn ymddangos ar ben ei sylfeini a gweld sut y’i gweithredwyd gan ddefnyddio’r pwll dwy ffrwd uwch ei ben   

There are no images in the search content table for folder: 23236

App logo

Android App Store Apple-Store

Mae gan yr app lwybrau casglu wedi'u sbarduno gan GPS sy'n eich galluogi chi i grwydro’r parc a chasglu rhith-blanhigion a rhith-anifeiliaid ar hyd y daith wrth i chi gadw llygaid allan am rai go iawn. 

 

Mae modd i chi gasglu mythau a chwedlau o bob rhan o’r parc wrth ddilyn y llwybr straeon a cheir llwybr casglu i blant o amgylch ardal y dolydd hefyd, sy’n eu galluogi nhw i gasglu ffeithiau am wahanol anifeiliaid wrth iddynt redeg o gwmpas.

 

Ar ôl i chi gasglu cymeriadau, straeon, anifeiliaid a phlanhigion y realiti estynedig, caiff y rhain eu cadw yn eich casgliad er mwyn i chi eu gweld unrhyw bryd yr hoffech.

 

 

Diolch i Green Days am anfon lluniau o’u diwrnod yn nigwyddiad ‘Wool to Wheel’.