Cost of Living Support Icon

Y Fargen Ddinesig ar frig yr agenda ym mrecwast busnes Sioe y Fro 

11 Awst 2017 

 

Daeth gwleidyddion a gweision cyhoeddus blaenllaw ynghyd i drafod y ffordd orau o sicrhau bod Bro Morgannwg yn manteisio'n llawn ar fuddion Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn brecwast busnes a gynhaliwyd gan y Cyngor yn Sioe Amaethyddol y Fro eleni. 

Vale Managing Director Rob Thomas
Bu Arweinydd y Cyngor, y Cyng. John Thomas ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS, ill dau yn annerch y cyfarfod a oedd yn canolbwyntio ar nodi’r cyfleoedd allweddol i’r cyngor a gyflwynir yn sgil y Fargen Ddinesig. 

Dywedodd y Cyng. Thomas: “Mae’r Fargen Ddinesig yn gyfle sylweddol a chyffrous i’r Fro a’r rhanbarth cyfan. O ganlyniad, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn buddsoddi ein hamser a’n hymdrechion yn cynnal trafodaethau ystyrlon o ran dyfodol y sir.


“Mae’r unig faes awyr rhyngwladol yng Nghymru ac Ardal Fenter Sain Tathan gerllaw o bwys mawr i’r economi genedlaethol ac mae eu lleoliad yng nghanol y Fro yn golygu y gallai’r Fargen Ddinesig sicrhau buddion anferthol i’r Fro. 

Cllr John Thomas


“Mae penderfyniad Aston Martin i ddewis y Fro fel lleoliad ei safle cynhyrchu diweddaraf yn y DU a’r ffaith bod Renishaw yn bwriadu ehangu ei weithrediadau ger cyffordd 34 yr M4 yn dangos bod y Fro yn gallu denu buddsoddiad sylweddol. 


“Yr her nawr yw sicrhau bod y Fro yn parhau i chwarae rhan flaenllaw yn natblygiadau rhaglen fuddsoddi'r Fargen Ddinesig.   Mae hyn yn rhywbeth y mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo iddo ac y byddaf yn gweithio'n ddiflino i'w sicrhau.”

 


Dywedodd y Gwir Anrh. Alun Cairns AS: “Roedd y brecwast busnes yn ddechrau gwych i sioe ardderchog arall yn y Fro. Mae’n bwysig bod trigolion a pherchenogion busnes ym Mro Morgannwg yn cael gwybod am yr effaith a gaiff y Fargen Ddinesig ar y sir ac rwy’n falch iawn bod Cyngor Bro Morgannwg wedi trefnu’r fath gyfarfod. 
MP Alun Cairns
“Bydd Bro Morgannwg a’r ardaloedd eraill y tu allan i Gaerdydd a gaiff eu heffeithio’n uniongyrchol gan y fargen yn parhau’n flaenoriaeth drwy gydol y broses – neges yr oeddwn yn awyddus i’w chyfleu yn y brecwast busnes."
Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys rhaglen fuddsoddi o £1.229 biliwn wedi ei wasgaru dros ardal deg awdurdod lleol, gan gynnwys £734m ar gyfer creu cynllun Metro De-ddwyrain Cymru.

Yn gynharach eleni sefydlodd Cyngor Bro Morgannwg gronfa wrth gefn ar gyfer y Fargen Ddinesig i sicrhau y gall fodloni ei ymrwymiad ariannol i’r Fargen yn y dull mwyaf effeithiol.