Cost of Living Support Icon

Galw ar y gymuned i gefnogi Ysgol Gynradd Sain Tathan mewn cynnig clwb garddio  

31 Awst 2017 

 

 

Mae Canolfan gymunedol a redir gan y Cyngor ym Mro Morgannwg yn galw ar y cyhoedd i gefnogi digwyddiadau lleol i helpu i godi arian ar gyfer clwb garddio ysgol. 


Mae disgyblion a rhieni yn Ysgol Gynradd Sain Tathan yn ceisio codi arian ar gyfer tŷ gwydr sy’n ddigon mawr i ddal dau athro a 20 disgybl. 


Mae gan yr ysgol ardd yn barod, ond mae angen iddynt godi £250 i allu ymgeisio am grant i’w helpu i weithio ar yr hyn sydd ganddynt. 

Mae nifer o bobl eisoes wedi cofrestru i gefnogi’r project ond mae Milly Nicholson, Trysorydd Canolfan Gymunedol Paul Lewis yn Sain Tathan, yn annog pobl i fynychu digwyddiadau a gynhelir yn y neuadd i godi’r arian sydd ei angen.

 Dywedodd: “Rydym wedi codi llawer o arian trwy ein digwyddiadau bingo, ac yn y gorffennol, rydym wedi gallu rhoi cyfraniad i Ambiwlans Awyr Cymru, prynu mainc picnic, ac wedi buddsoddi mewn cadair olwyn ar gyfer aelod o’r gymuned.   


“Mae’n bwysig bod y plant yn gallu tyfu eu bwyd eu hunain yn yr ardd, i’w helpu i ddysgu sgiliau newydd."

 

St Athan community centreMae noson bingo i godi arian i’r ysgol wedi’i threfnu ar gyfer dydd Sadwrn 7 Hydref.   


Mae’r ganolfan gymunedol yn aml yn cynnal nosweithiau bingo i godi arian ar gyfer gwahanol elusennau, ac yn ddiweddar fe wnaethon ni godi'r £600 ar gyfer y gymdeithas Alzheimer.   

 

Cynhelir noson bingo nos Sadwrn, 2 Medi yng Nghanolfan Gymunedol Paul Lewis yn Sain Tathan, i godi arian i gancr MacMillan. 

 

Gallwch hefyd ddilyn y ganolfan ar Facebook.