Cost of Living Support Icon

Dewis Cymru yn helpu preswylwyr cartref ymddeol i fod yn fwy actif 


07 Awst 2017

 

Mae preswylwyr mewn cartref ymddeol wedi dod yn fwy actif diolch i ddosbarth ymarfer corff wedi’i drefnu trwy Dewis Cymru. 

 

Mae Dewis Cymru, siop un stop ar gyfer llesiant yng Nghymru, yn cynnig cyfeirlyfr sy’n galluogi defnyddwyr i fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau mewn meysydd megis iechyd, rheoli arian a diogelwch. 


Gall pobl sy’n mynd i https://www.dewis.cymru/being-well ddewis y categori y mae diddordeb ganddynt ynddo ac mae amrywiaeth o gyngor a dolenni i wasanaethau ar gael.


Neu, mae’n bosibl chwilio fesul lleoliad i ddod o hyd i wasanaeth penodol mewn ardal benodol.


Fitness Extend - CrawshayDyma’r hyn a wnaeth swyddog Cymunedau yn Gyntaf Cyngor Bro Morgannwg, Mark Ellis, pan oedd am ddod o hyd i hyfforddwr Ymestyn Ffitrwydd ar gyfer preswylwyr cymuned ymddeol yn Llanilltud Fawr.


Ymarfer corff ysgafn sy’n cynnwys symud i gerddoriaeth yw Ymestyn Ffitrwydd. 


Cysylltodd ag Alana Bevan, sydd wedi bod yn cynnig dosbarthiadau rheolaidd ers.


“Ymgynghorwyd â phreswylwyr ac un o'u syniadau oedd dosbarth Ymestyn Ffitrwydd," meddai Mark.


“Defnyddiais Dewis Cymru i ddod o hyd i hyfforddwr lleol a ddaeth i gynnal sesiynau rheolaidd gyda’r preswylwyr ac ymunodd pobl sy'n byw'n allanol â’r sesiynau hefyd.

 

“Roedd defnyddio'r gwasanaeth mor hawdd a des o hyd i'r union beth roeddwn am ei gael. Teipiais hyfforddwr ffitrwydd, ymddangosodd y manylion a ffoniais ef yn syth. Mae Lana yn wych ac mae pawb yn mwynhau’r dosbarthiadau’n fawr.

 

“Defnyddiais y gwasanaeth hefyd i ddod o hyd i athro celf. Mae’r cyfeirlyfr yn ddefnyddiol wrth chwilio am sawl peth.”

 

Meddai warden y cartref ymddeol, Sheralee Baldwin:  “Mwynhaodd y preswylwyr y sesiynau yn fawr – mae’n ymwneud â chael hwyl a pheidio â chymryd pethau ormod o ddifri. 

 

“Mae’n sesiwn i grŵp, rhywbeth y maent yn ei hoffi, yn enwedig gan ei fod mor hwyliog.

 

“Gallwch wneud nifer o’r ymarferion wrth eistedd mewn cadair trwy godi eich coesau neu’ch breichiau – does dim pwysau. 

 

“Mae’n wych bod gwasanaeth fel Dewis Cymru ar gael i’n helpu ni i drefnu’r math hwn o weithgaredd.” 

 

Meddai, Teresa James, preswylydd 80 oed o’r cartref ymddeol sy’n cymryd rhan yn y dosbarthiadau Ymestyn Ffitrwydd: “Gwnes i fwynhau’r dosbarth yn fawr. Mae'n cynnwys ymarfer corff a chymdeithasu. Mae’n braf bod mewn grŵp gyda phobl eraill yn ymarfer corff gyda’i gilydd. 

 

“Rydym yn ymarfer ein breichiau, ein harddyrnau a’n coesau. Wrth fynd yn hŷn, mae’n bwysig parhau i ymarfer corff a byddwn i’n hoffi cael dosbarthiadau bob dydd.”