Cost of Living Support Icon

Neuadd bentref newydd i gael ei hadeiladu yn Aberogwr wrth i ymddiriedolwyr dderbyn £128,000  

 

15 Awst 2017

 

Caiff neuadd pentref newydd ei hadeiladu yn Aberogwr ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu a gwaith caled gan bobl leol. 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg a’r Gymdeithas Neuaddau Pentref wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i roi tir y Cyngor i'r Gymdeithas i’w galluogi i adeiladu'r neuadd.  

 

 

Cafodd yr ymddiriedolwyr £128,000 gan Gyllid Datblygu Cymunedau Gwledig tuag at gostau’r gwaith adeiladu. 

 

 

New Village Hall Location


Bydd y Cyngor hefyd yn rhoi £287,000 o gyllid Adran 106 i'r neuadd a fydd yn talu am offer chwarae a thirlunio cysylltiedig, gan y datblygwyr Barrat, David Wilson Homes a Waterstone Homes.  

 

 

 

Mae Busnesau Lleol megis Rockwool ac Euroclad hefyd wedi cynorthwyo trwy ddarparu deunyddiau.  

 

 

Meddai’r Cyng Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: 

 

“Rwy’n falch bod Ogwr yn cael Neuadd Bentref lle y gall pobl leol fwynhau gwasanaethau ar drothwy eu drysau.  Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r gymdeithas er mwyn sicrhau cyllid a chytundebau tir.”

 

Gobeithio y bydd y gwaith yn dechrau ym mis Hydref eleni.

 

Lleolir y neuadd ar safle'r bloc toiledau nas defnyddir sy'n gyferbyn â'r prif siopau yn y pentref.


Meddai Eugene Roberts, Cadeirydd Sefydliad Neuadd Bentref Ogwr: 


“Mae’r pentref wedi bod yn gweithio ers degawdau i ariannu neuadd y mae angen mawr amdani, rydym mor falch o gyflawni'r nod hwn ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu a chwblhau’r neuadd.  

 

"Hoffem ni ddiolch i Gyngor y Fro, Jane Hutt AS, Carwyn Jones AS Prif Weinidog Cymru, Alun Cairns ac wrth gwrs pawb yn ein cymuned am eu cefnogaeth.”


Bydd y neuadd yn manteisio ar gyllid trwy Raglen Ddatblygu Wledig 2014-2020 Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.