Cost of Living Support Icon

Crwydro Bro Morgannwg gyda’ch ci yr haf hwn

 

8 Awst 2017

 

Mae’n dod yn haws crwydro Bro Morgannwg gyda’ch ci, diolch i gynllun peilot project Pawennau’r Fro. 

 

Mae'r prosiect wedi ei hariannu drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg. Caiff honno ei hariannu yn ei thro gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd dros Ddatblygiad Gwledig.

 

Annog busnesau i fod yn gyfeillgar i gŵn yw’r bwriad, ond mae'r cynllun peilot hefyd yn hyrwyddo teithiau cerdded, traethau a dyddiau allan sy'n gyfeillgar i gŵn. 

 

Dog on the coastMae gan fusnesau Pawennau’r Fro eu canllawiau eu hunain ar sut mae bod yn gyfeillgar i gŵn ond bydd pob un yn cynnig y canlynol: ardaloedd cyfeillgar i gŵn penodedig, awgrymiadau o deithiau cerdded da yn yr ardal a powlenni dŵr i gŵn gyda dŵr ffres. 

 

Fel cyflwyniad i’r cynllun peilot ac fel canllaw hwylus i ymweld â’r Fro yr Haf hwn, aeth Pawennau’r Fro draw i gael sgwrs ag ymwelydd cyson, sef Catriona Smith a’i chi, Millie.

 

Roedd yn gyfle i ddarganfod y llefydd gorau i fynd i grwydro o safbwynt person sy’n byw yn lleol. 

 

Mae gwefan Pawennau’r Fro yn cynnwys awgrymiadau o deithiau cerdded a dyddiau allan sy’n addas i gŵn. 

 

Dywedodd Catriona Smith:

“Rydyn ni’n treulio llawer o amser yn crwydro ac rydyn ni wedi mwynhau bron pob un o deithiau Pawennau’r Fro.

Ffefrynnau Millie yw ‘Taith gerdded i gŵn Aber Ogwr’ a Llamau’r Eog. Mae Millie yn mwynhau carlamu drwy’r caeau blodau menyn yng Nghoedwig Dinas Powys yn enwedig ar daith gerdded Llamau’r Eog.


 “Mae Millie hefyd yn mwynhau diwrnod allan ym Mharc Gwledig Llynoedd Cosmeston neu fynd draw i siopau cyfeillgar i gŵn yn y Fro gan gynnwys No 39 a Happy Days yn y Bont-faen. Wel, efallai mai fi sy’n mwynhau’r siopau yn fwy na Millie, ond mae’n wych bod hi’n gallu dod gyda mi.

 

“Ry’n ni bob amser yn mwynhau aros am damaid i’w fwyta neu luniaeth tra ein bod allan yn cerdded, ac mae’n wych cael amrediad o leoedd sy’n gyfeillgar i gŵn ar hyd a lled y Fro. Mae rhai o’n ffefrynnau yn cynnwys y Beat Hotel, Happy Days, a’r Plough.”


Mae tamaid yn haeddiannol ar ôl pob taith gerdded neu ddiwrnod allan. 


Am fwy o wybodaeth ar Bawennau’r Fro a’r holl lefydd y gallwch ymweld â nhw sy'n gyfeillgar i gŵn, ewch i www.visiththevale.com