Cost of Living Support Icon

Llwyddiant i fyfyrwyr TGAU ledled y Fro

 

25 Awst 2017 

 

Gall disgyblion ledled Bro Morgannwg ymlacio nawr gan fod canlyniadau TGAU CBAC ar gyfer 2017 yn dangos fod canran anhygoel o 97.6% wedi pasio â graddau A* – G a 68.6% â graddau A* – C.

 

Mae canlyniadau heddiw yn dangos fod disgyblion y Fro unwaith eto eleni wedi gwneud yn well na’r cyfartaledd cenedlaethol gyda 96.9% o ddisgyblion yng Nghymru  yn pasio â graddau A* - G a 62.8% yn cyrraedd graddau A* - C. 


Ysgol Gyfun y Bont-faen oedd yr ysgol a berfformiodd orau yn y Fro am yr ail flwyddyn o’r bron, wrth i 99.8% o ddisgyblion basio â graddau A*- G, 86.2% ag A* i C a 40.6% a graddau A* neu A. 

Llwyddodd 99.4% o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Stanwell, Penarth i basio â graddau A* - G ac f e basiodd 80.7% â graddau A* - C. Yn Ysgol St Cyres fe basiodd 97.4% â graddau A* - G. 

 

bigstock-Teenage-Girls-Celebrating-Exam-110281712


Llwyddodd 96.7% o ddisgyblion Ysgol Llanilltud Fawr i  gyrraedd A* - G a 61.7% i gyrraedd A* - C. 


Llwyddodd yr unig ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, i barhau â’u llwyddiant cyson wrth i 97.5% o ddisgyblion basio â graddau A* - G a 74.3% â graddau A* - C. 

Yn y cyfamser fe lwyddodd disgyblion ysgolion Bryn Hafren, Ysgol Gyfun y Barri ac Ysgol Uwchradd Babyddol Richard Gwyn i sicrhau cyfraddau pasio A* - G o 93.6%, 95.4% a 97.5% a graddau A* - C o 46.7%, 53.1% 

a 64.6%.

 

Dywedodd y Cyng Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant:

“Mae’n wych clywed am y canlyniadau rhagorol unwaith eto, ac wedi eu holl waith caled dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy’n siŵr y bydd nifer o ddisgyblion yn mwynhau’r dathlu heddiw.


 “Yn sgil newid o ran sut y mae papurau TGAU yn cael eu gosod a graddau yn cael eu rhoi does dim modd gwneud cymhariaeth ystyrlon rhwng canlyniadau eleni a rhai’r llynedd. Fodd bynnag, yr hyn y maen nhw yn ei ddweud wrthym yw fod gennym athrawon a staff cymorth rhagorol yn gweithio yn y Fro. 


 “Fel awdurdod lleol rydym yn edrych ymlaen i fanteisio ar yr arbenigedd hwn wrth i ni barhau i gefnogi diwygiadau Llywodraeth Cymru a galluogi’r rhai hynny sy’n gweithio yn ein hysgolion i chwarae rhan fwy canolog wrth gynllunio a chyflawni polisi cenedlaethol.” 

 


Mae’r arholiad newydd a gyflwynwyd eleni yn rhoi prawf  gwahanol ar wybodaeth a setiau sgiliau na’r arholiadau blaenorol sy’n golygu na ellir gwneud cymhariaeth ystyrlon.

 

Bydd canlyniadau eleni yn gosod gwaelodlin newydd at ddibenion cymharu; ni fydd data tueddiadau ar gael tan 2019.