Cost of Living Support Icon

Tenantiaid yn mwynhau ffair haf i ddathlu diwedd y flwyddyn gyntaf ar safle datblygiad tai £2.2 miliwn Bro Morgannwg

 

11 Awst 2017


Gwnaeth mwy na 50 o drigolion ymgynnull i ddathlu blwyddyn ers symud i mewn i safle datblygiad Tai Cymorth Cyngor Bro Morgannwg yng Nghwrt Col-Huw, Llanilltud Fawr. Ddydd Sadwrn 5 Awst, cafodd ffair haf ei chynnal ar y safle'r tai newydd, sy’n rhan o gynllun tai £2.1 miliwn.

 

The organising committe - Lauren and her young child Lilja, Suzanne and her son Thomas, Charlene, Jayne, Leanne, Carlie and Hannah.

Cafodd ei adeiladu gan Gymdeithas Tai Newydd sydd hefyd yn berchen arno. Cafodd y gwaith o ddatblygu’r 18 o gartrefi hyn ei gwblhau ym mis Ebrill y llynedd a chafodd ei adeiladu mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru. 

 

 

Cymdeithas Tai Newydd a ariannodd y digwyddiad dathlu drwy ei gynllun Grantiau Cymunedol, a bu plant yn mwynhau’r castell neidio, gweithdy addurno cacennau, a gweithgareddau tatŵs gliter a phaentio cerrig. 

 

 

Roedd barbeciw i bawb ac roedd masgotiaid o ffilmiau plant poblogaidd yn adloni plant bach drwy gydol y dydd. 

 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai Bro Morgannwg, Miles Punter:  

 

“Mae’n wych clywed bod y tenantiaid newydd wedi dathlu eu blwyddyn gyntaf yn eu cartrefi newydd ac mae'r dathliad hwn yn enghraifft ardderchog o botensial gwaith datblygu tai i lwyddo ledled Bro Morgannwg." 


Dywedodd Jayne Howells, sy’n Llysgennad Ystad Cwrt Col-Huw ac yn denant yno: 

 

“Ers symud yma, rydyn ni’n mwynhau bod yn rhan o gymuned, ac rydyn ni’n teimlo’n llai ynysig oherwydd ein bod yn rhoi cymorth i’n gilydd.

 

"Hoffen ni ddiolch i Newydd am y grant sydd wedi ein galluogi i drefnu’r dathliad hwn, ac am ddarparu blychau plannu hyfryd drwy weithio gyda phobl ifanc yn Rhydyfelin ger Pontypridd i'w hadeiladu.  

 

“Hoffen ni hefyd ddiolch i Gapel Bethel am ddarparu byrddau i ni. I ddweud diolch bydd unrhyw fwyd sy'n weddill ar ôl y digwyddiad yn cael ei roi i'r banc bwyd yn yr ardal."

 

 

  Tenants of Cwrt Col-Huw with mascots Elsa and Chase at the anniversary celebration