Cost of Living Support Icon

Wedi blino ar deithio bob dydd? Mae Cymunedau Gwledig Creadigol eisiau ystyried defnyddiau newydd ar gyfer adeiladau gwledig   

 

7 Awst 2017 

 


Mae Cymunedau Gwledig Creadigol, sef tîm adfywio gwledig Bro Morgannwg, yn archwilio cyfleoedd ar gyfer ailddefnyddio adeiladau segur ac adeiladau nad ydynt yn cael digon o ddefnydd at ddibenion busnes. Bydd yn cydweithio â busnesau bach i nodi eu hanghenion o ran gweithle.

 

Mae’r project hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg. 

 

 

Meddai’r Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio, y Cynghorydd Jonathan Bird: 

 

"Mae’r project yn cynnig cyfle gwych i weithio mewn partneriaeth â busnesau bach sy’n chwilio am weithle yn y Fro wledig  a’r rhai hynny sydd â lleoedd segur neu nad ydynt yn cael digon o ddefnydd er mwyn eu defnyddio  nhw eto at ddibenion busnes." 

 

 

 Creative-Rural-Communities-logoHoffem i berchnogion neu reolwyr adeiladau segur neu adeiladau nad ydynt yn cael digon o ddefnydd, gysylltu â ni.  


Efallai bod gennych chi ystafell wag mewn canolfan gymunedol neu dafarn, neu efallai bod gennych chi hen siediau gwartheg neu stablau gwag sy’n dechrau dirywio.   

Maent hefyd eisiau siarad â busnesau bach ac unig fasnachwyr yn y Fro wledig am eu hanghenion o ran gweithle.   

 

 

Dywedodd Arweinydd y Tîm Datblygu Economaidd, Phil Chappell:

 

 

“Mae llawer o bobl yn y Fro yn gweithio gartref ac yn ystyried cymryd y cam nesaf, sef gweithio mewn gweithle.  Hefyd, gall gweithio’n unigol fod yn ynysig, felly mae CGC yn awyddus i glywed gan bobl sydd efallai’n dymuno rhannu lle.” 

 


Os ydych chi’n chwilio am unrhyw fath o weithle yn y Fro wledig, ewch i gael sgwrs gyda’r tîm ar 01446 704226 neu llenwch yr arolwg ar-lein yn www.creaveruralcommunities.co.uk.