Cost of Living Support Icon

Cyngor y Fro yn cyhoeddi cynllun cyllid £670,000 newydd


08 Awst 2017

 

MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio cynllun cyllid tair blynedd newydd gwerth £670,000 wedi’i ddylunio i gefnogi projectau a mentrau a gyflwynir gan sefydliadau cymunedol.

 

Caiff ei ariannu gan y Cyngor, ynghyd â chyfraniad gan elusen, a bydd mynediad i arian a negodir gan Gyngor Bro Morgannwg trwy gyfraniadau Adran 106 .

 

Y nod yw y bydd mynediad i’r Gronfa Cymunedau Cryfach hon yn helpu mentrau cymunedol i ddod yn fwy cynaliadwy, gan leihau’r angen am gymorthdaliadau ar gyfer costau a gweithgareddau. 

 

CivicMae hwn yn ddull unigryw yng Nghymru, a bydd yn ehangu’r ystod a’r swm o gyllid sydd ar gael i gefnogi projectau cymunedol. 

 

Caiff ceisiadau am gyllid eu hystyried gan banel o Gynghorwyr a phartneriaid allanol, gan gynnwys cynrychiolwyr o Gynghorau Tref a Chymuned, cynrychiolydd o Sefydliad Waterloo (elusen annibynnol sy’n cynnig cymorth ariannol i brojectau sydd wedi rhoi cymorth i’r gronfa), partneriaid sector cyhoeddus a Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM), elusen sy'n cefnogi gwaith gwirfoddol a gweithgareddau trydydd sector ym Mro Morgannwg. 

 

Dywedodd Rachel Connor, Prif Weithredwr GGM, “Mae’n bleser gennym weld yr adnodd ychwanegol hwn ar gyfer y Trydydd Sector ym Mro Morgannwg. Mae’r Sector hwn wastad wedi bod yn arloesol a chreadigol o ran ei agwedd at gyllid. Bydd yr adnodd newydd hwn yn helpu i annog dull mwy mentrus.   Mae GGM yn edrych ymlaen at gefnogi ein haelodau i fanteisio ar y ffrwd cyllid newydd hon.” 

 

Gellir defnyddio’r gronfa i ariannu astudiaethau dichonolrwydd, prynu offer, talu am waith adeiladu a chostau staffio.  Mae hefyd ar gael ar gyfer projectau arloesol bach, gyda cheisiadau am unrhyw swm o gyllid yn cael eu hystyried. 

 

Gall y rheiny a hoffai ragor o wybodaeth neu ffurflen gais ar gyfer eu project gysylltu â thîm Datblygu Economaidd y Cyngor am ganllaw dwy e-bostio scgfapplications@valeofglamorgan.gov.uk neu ffonio 01446 704636.
Mae nifer o rowndiau cais bob blwyddyn, mae’r cyntaf yn cau ar 6 Hydref. 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor, “Mewn adeg o gynni, mae Cyngor y Fro yn falch ei fod yn dal i allu cynnig cyllid grant i sefydliadau cymunedol. Mae’r gronfa helaeth hon nawr ar agor ar gyfer ceisiadau ac rydym yn gwahodd ymholiadau gan sefydliadau trydydd sector mawr a bach, Cynghorau Tref a Chymuned yn ogystal â cheisiadau ar y cyd. 

 

“Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi cyfraniad Sefydliad Waterloo ac yn gobeithio y gall y cynllun hwn helpu i ddarparu Cymunedau Cryfach gyda Dyfodol Gwell, ein gweledigaeth ar gyfer Bro Morgannwg.”