Cost of Living Support Icon

Seremoni Cyngor Bro Morgannwg i ddathlu llwyddiant Baner Werdd

 

09 Awst 2017

 

Dathlodd Cyngor Bro Morgannwg lwyddiant Baner Werdd yn ddiweddar drwy gynnal seremoni wobrwyo yn Ynys y Barri'r wythnos hon.


Fis diwethaf cyhoeddwyd bod yr awdurdod unwaith eto wedi gwneud yn well na’r disgwyl, ac roedd ymhlith y siroedd mwyaf llwyddiannus yng Nghymru yn y Gwobrau Baner Werdd Flynyddol. 


Cafodd saith safle yng ngofal Cyngor y Fro statws Baner Werdd, sy’n tystio i fan awyr agored o safon, gan y corff dyfarnu Cadwch Gymru'n Daclus. 


Green1Derbyniodd Parc Romilly, y Parc Canolog, Parc Victoria, Gerddi’r Knap, Promenâd a Gerddi Ynys y Barri, Parc Belle Vue a Gerddi Alexandra/Windsor yr anrhydedd, ynghyd â’r Comin ym Mhenarth a Mynwent Merthyr Dyfan yn y Barri. Derbyniodd naw safle cymunedol Faner Werdd hefyd. 


Roedd y rhain yn cynnwys Gardd Gymunedol y Barri, Coetir Birchgrove, Gardd Berlysiau’r Bont-faen, Gwarchodfa natur Cwm Talwg, y Berllan Elisabethaidd, Gerddi’r Hen Neuadd, Cae’r Berllan Uchaf, y Wenfô, Perllan Gymunedol y Wenfô a’r Berllan Gymreig yn y Wenfô.


Cafodd y gwirfoddolwyr sy’n cynnal y safleoedd hynny dystysgrifau, ac roedd cydnabyddiaeth i weithwyr Cyngor y Sir sy’n helpu i ofalu am y parciau hefyd. 


Llongyfarchodd Maeres Bro Morgannwg Janice Charles y sawl a fu ynghlwm, ochr yn ochr â Chyfarwyddwr Gwasanaethau’r Amgylchedd a Thai Miles Punter, Maer Cyngor Tref y Barri Nic Hodges, a Maer Cyngor Tref Penarth Ken Lloyd. 


Dim ond Caerdydd sy’n ennill y blaen o safbwynt nifer y safleoedd Baner Werdd, a daeth awdurdod dinesig Abertawe yn drydydd. Felly gwnaeth y Fro, sy’n llai o lawer, chwalu pob disgwyl drwy  gyrraedd yr 2il safle o blith 22 o siroedd Cymru.


Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Rwy’n hynod falch bod y Fro unwaith eto wedi rhagori gan ennill cynifer o barciau Baner Werdd. O ystyried yr adnoddau sydd gennym o’n cymharu ag awdurdodau eraill, mae hyn yn dipyn o gamp ac yn tystio i waith caled staff ein parciau. Eu hymroddiad nhw sy’n cadw ein mannau gwyrdd mewn cyflwr gwych drwy gydol y flwyddyn.


“Llongyfarchiadau hefyd i grwpiau gwirfoddol a chymunedol sydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith caled parhaus.


“Mae’r safon y mae’n rhaid ei chyrraedd er mwyn ennill statws Baner Werdd yn hynod uchel ac mae llawer o ymdrech yn cael ei wneud y tu ôl i’r llenni er mwyn sicrhau bod gan breswylwyr gymaint o fannau ardderchog i’w mwynhau yn y Fro.”

 

Green2

Cynhelir y broses ddyfarnu ym mis Ebrill a mis Mai bob blwyddyn, gan gyhoeddi'r enillwyr ym mis Gorffennaf. Rhaid i barciau wneud cais bob blwyddyn i gadw eu Baner Werdd, a gall y safleoedd llwyddiannus godi Baner Werdd yn y parc am flwyddyn.


Caiff parciau eu beirniadu ar wyth maen prawf, sef glendid, diogelwch, safon y gwaith cynnal a chadw, rôl y gymuned, cynaliadwyedd, gwaith rheoli, cadwraeth a threftadaeth.


Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd a Chadw Cymru’n Daclus: “Rydyn ni’n falch o weld bod nifer y mannau gwyrddion buddugol ym Mro Morgannwg wedi parhau i gynyddu. Mae’r holl faneri sy’n chwifio eleni yn dyst i ymdrechion y staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal y safonau y mae Gwobr Baner Werdd yn eu mynnu. Diolch iddyn nhw fod gan breswylwyr ac ymwelwyr â’r Fro gymaint o adnoddau rhagorol.”