Cost of Living Support Icon

Canmoliaeth i Gyngor Bro Morgannwg gan Swyddfa Archwilio Cymru

 

03 Awst 2017 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cael rhagor o adborth cadarnhaol gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn ei Adroddiad Gwella Blynyddol ar gyfer 2016/17.


Mae’r adroddiad yn cyflwyno casgliadau sawl arolwg yn ystod y flwyddyn ac mae'n tystio i berfformiad boddhaol y Cyngor mewn sawl agwedd.  


Daeth yr adroddiad diweddaraf, a asesodd sut y mae’r Cyngor yn rheoli'r newidiadau mawr i'w wasanaethau, i’r casgliad bod gan y Cyngor “fframwaith corfforaethol clir i bennu a chyflawni newidiadau i wasanaethau a threfniadau effeithiol i gynnal y gwaith newid."

 

CivicCanmolodd raglen Ail-lunio Gwasanaethau’r Cyngor, gan ddweud ei bod yn ei gwneud yn bosibl rheoli'r newidiadau'n effeithiol. Dywedodd hefyd y bu gwaith effeithiol rhwng y Cabinet ac uwch reolwyr, gan gydnabod yr amrediad o waith ymgysylltu a hyfforddiant. 

 

Mae’r Adroddiad Gwella Blynyddol hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am adroddiad Asesu Corfforaethol 2016 SAC, a werthusodd allu’r awdurdod i gynnal gwelliannau parhaus.

 

 

Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod gan Gyngor y Fro “weledigaeth glir ynghylch yr hyn y mae eisiau ei gyflawni ac mae'n

gwneud newidiadau cadarnhaol ddylai sicrhau ei fod mewn sefyllfa dda i barhau â'r gwelliannau hyn”.

 

Ymhlith meysydd a gafodd ganmoliaeth oedd:

 

  • Gweledigaeth glir y Cyngor.  

 

  • Arweinyddiaeth effeithiol sy’n cefnogi’r agenda o newid. 

 

  • Gwella trefniadau rheoli perfformiad.  

 

Mae’r adroddiad diweddaraf yn datgelu bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd da o ran mynd i’r afael â'r pum cynnig i wella a bennwyd yn rhan o’r Asesiad Corfforaethol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:

 

“Mae’n rhoi boddhad mawr cael rhagor o adborth sydd mor gadarnhaol gan Swyddfa Archwilio Cymru.   Roedd canfyddiadau eu hasesiad blaenorol yn ein calonogi’n fawr, ac mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn profi bod Cyngor Bro Morgannwg yn parhau i gyflawni safonau uchel o arweinyddiaeth a gwasanaethau. 

 

“Ond rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon.  Y nod nawr yw parhau i wella ac mae hynny'n her rydym yn ei chroesawu."