Cost of Living Support Icon

Tîm datblygu chwaraeon a chwarae Bro Morgannwg yn ymuno a Menter genedlaethol i annog mwy o ferched i gadw'n actif

 

04 Awst 2017


Mae tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymuno ag ‘Sgwad Ni' - menter gan Chwaraeon Cymru i ddathlu, annog a grymuso merched yng Nghymru i fod a chadw'n actif.


BadmintonMae Chwaraeon Cymru’n sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch ffisegol yng Nghymru.


Bydd yr ymgyrch Sgwad Ni yn dod yn fyw â straeon unigryw merched o gefndiroedd gwahanol o Gymru benbaladr y maent pob un â’i rhesymau dros fod yn actif. 

 
Mae’r tîm datblygu chwaraeon a chwarae wedi addo ymrwymo i gynyddu nifer y merched sy’n actif, yn enwedig ar adeg pan fo ymchwil yn dangos bod llai o ferched yn gwneud chwaraeon neu weithgarwch corfforol o gymharu â dynion.


Un o’r projectau diweddaraf mwyaf llwyddiannus yw ‘Merched yn Ymarfer Corff’, ymgyrch leol datblygu chwaraeon i gael mwy o ferched yn actif yw ‘Sisters with Blisters’, grŵp rhedeg i ferched 14-18 oed.


Fe’i harweiniwyd gan grŵp o wirfoddolwyr rhedeg sydd wedi bod yn genhadon ac ysbrydoli grŵp o ferched ym Mhenarth i fod yn fwy actif drwy redeg.

 

Cycling around WalesYmhlith trigolion y Fro sy’n ysbrydoli merched i fod yn fwy actif mae’r Pencampwyr beicio, Hilary May a Sara Novo, sy’n rhan o raglen Breeze Ride Beicio Prydeinig, sy’n annog ac yn ysbrydoli merched lleol i fod yn fwy actif drwy feicio mewn amgylchedd cyfeillgar, anghystadleuol.

 

Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: 


“Mae’n wych croesawu tîm datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg i’r garfan! Bydden ni ddim yn gallu cyrraedd ac ysbrydoli cynifer o ferched yn y Fro heb eu cymorth.  


“Mae rhwydwaith o ferched yno’n goresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag bod yn fwy actif a thrwy hyn byddwn yn uno’r merched hyn i sicrhau eu bod yn cael eraill i ymuno â nhw ar y daith.” 


Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden, y Cynghorydd Gordon Kemp: 


“Mae’n wych gweld merched o bob cwr o Gymru’n cymryd rhan mewn gweithgareddau newydd ac mae ‘Sgwad Ni’ yn creu cymaint o gyfleoedd chwaraeon i bobl i gadw’n actif. 


“Mae ‘Sisters with Blisters’ yn ymgyrch leol wych ac mae’n wych clywed am ei llwyddiant yn y Fro.” 


Gwahoddir merched sydd am fod yn rhan o Sgwad Ni i fod yn gennad ym Mro Morgannwg hoffi ein tudalen Facebook a’n dilyn ar Twitter, Snapchat ac Instagram.


Os ydych yn cynnal eich grŵp merched eich hunain neu os hoffech gael gwybodaeth am sut i gymryd rhan neu fod yn rhan o ‘Sgwad Ni' ewch i www.oursquad.cymru.


I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau lleol ar draws y Fro ffoniwch y tîm datblygu Chwaraeon a Chwarae ar 01446 704808 neu e-bostiwch rlshepherd@valeofglamorgan.gov.uk.


Gallwch hefyd ddilyn ‘Sgwad Ni’ ar Facebook a Twitter.