Cost of Living Support Icon

Annog trigolion Bro Morgannwg i gadarnhau manylion ar y gofrestr etholiadol


25 Awst 2017 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn annog pobl ledled y sir i gadarnhau a diweddaru gwybodaeth sy’n ymddangos ar y gofrestr etholiadol ar gyfer eu cyfeiriadau.

 

Gofynnir i drigolion sy'n byw ym Mro Morgannwg gadw golwg ar ffurflen a gaiff ei hanfon atynt yn fuan. 

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. 


Bwriad y ffurflen yw sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn gyfredol ac i nodi unrhyw drigolion nad ydynt wedi'u cofrestru. Gofynnir i bobl ddychwelyd y ffurflen cyn gynted â phosibl. 

Infographic-3-out-of-10-18-24-year-olds-arent-registered-to-vote-Wales


Beth yw manteision bod ar y Gofrestr Etholiadol? 

 

  • Cewch ddewis a hoffech chi bleidleisio mewn etholiad neu refferendwm y DU. 
  • Gall asiantaethau gwirio credyd gadarnhau eich cyfeiriad i gymeradwyo ceisiadau am forgais, benthyciad neu gredyd.
  • Mae'n bosibl y gelwir arnoch i gymryd rhan mewn Gwasanaeth Rheithgor.

 

Mae ymchwil a wnaed gan y Comisiwn Etholiadol annibynnol yn dangos bod pobl sydd wedi symud cartref yn ddiweddar yn llai tebygol o fod wedi’u cofrestru na’r bobl hynny sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad ers amser maeth. 

 

Bydd 94% o bobl sy’n byw yng Nghymru, sydd wedi bod yn byw mewn eiddo am fwy na 16 o flynyddoedd wedi’u cofrestru o gymharu â 30% o bobl sydd wedi bod yn byw mewn cyfeiriad am lai na blwyddyn.

 

 


Dywedodd Debbie Marles, Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghyngor Bro Morgannwg:

 

“Mae’n bwysig iawn bod trigolion yn ymateb cyn gynted â phosibl, fel y gallwn ni sicrhau bod gennym y manylion cywir ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad ym Mro Morgannwg. I sicrhau eich bod yn gallu dweud eich dweud yn yr etholiadau y flwyddyn nesaf, y cyfan mae angen ei wneud yw gwirio'r ffurflen pan ddaw hi ac ymateb cyn gynted â phosibl."

 

 

"Os nad ydych wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos ar y ffurflen. Ond os hoffech chi gofrestru, y ffordd hawsaf o wneud felly yw trwy fynd i www.gov.uk/register-to-vote, neu byddwn ni’n anfon y wybodaeth sy’n esbonio sut mae gwneud hyn i chi yn y post. Pa un bynnag, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom o hyd.”

 

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru:


“Mae’n bwysig iawn bod pawb sydd â’r hawl i bleidleisio yn gallu pleidleisio; gwirio’r ffurflen a fydd yn cyrraedd trwy'r post yw’r ffordd hawsaf o gael gwybod a ydych chi wedi’ch cofrestru’n barod.” 

 

 

Am fwy o wybodaeth, ewch i gov.uk/register-to-vote neu gallwch danysgrifio i fod ar Gylchlythyr y Gofrestr.

 

Gallwch hefyd gael y diweddaraf ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol @ElectoralCommUK a @YourVote_UK