Cost of Living Support Icon

Beth am wirfoddoli yng nghefn gwlad y Fro? 

 

01 Awst 2017

 

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Bro Morgannwg yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig sydd am fwynhau'r awyr agored, cwrdd â phobl newydd a help i ddiogelu’r amgylchedd. 

 

Steve Hunt with Shire horseGydag ystod o gyfleoedd sydd ar gael ym Mharc Gwledig a Phentref Canoloesol Llynnoedd Cosmeston, Parc Gwledig Porthceri, Arfordir Treftadaeth Morgannwg a Hawliau Tramwy Cyhoeddus, nawr yw'r amser gorau i gymryd rhan.

 

Gall gwirfoddoli fod yn brofiad hwyliog, boddhaol a chymdeithasol; mae llawer o grwpiau gwirfoddoli wedi’u sefydlu ledled y wlad. 

 

Mae Grŵp Bywyd Gwyllt Porthceri, er enghraifft, yn cynnwys grŵp o oedolion sy’n ymroddedig i helpu’r bywyd gwyllt ym Mharc Gwledig Porthceri ac o’i gwmpas. 

 

Maent yn cwrdd bob yn ail wythnos am 10:30am ar ddydd Sul ac maent yn monitro ac yn cofnodi'r ffawna a’r fflora yn y parc.

 

Mae gwirfoddolwyr yn y gorffennol wedi’u cydnabod yn genedlaethol am eu gwaith caled ledled y Fro.

 

Mae gwirfoddolwr ym Mharc Gwledig Porthceri, er enghraifft, wedi’i gydnabod yn ddiweddar am ei ymdrech i wella bioamrywiaeth yn yr ardal, ac wedi ennill Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru yn y categori ‘Gwirfoddolwr Gwyrdd’.

 

Mae Steve Hunt, 70, wedi bod yn cynnal yr ardal ers y deng mlynedd diwethaf ac wedi bod yn gyfrifol am ddiogelu’r coedwigoedd a’r dolydd trwy glirio prysg, codi sbwriel a phlannu coed.

 

volunteers pulling invasive Honey garlic webDywedodd: “Dechreuais wirfoddoli 11 mlynedd yn ôl pan gwrddais â'r warden blaenorol, Rob, wrth gerdded trwy'r parc. Ar ôl siarad â Rob am ryw amser, cynigiais helpu gyda rhywfaint o’r gwaith yn y parc. 

 

“Yn hwyrach, dechreuodd Mel ym Mhorthceri gan sefydlu Grŵp Cyfeillion sy’n cwrdd unwaith bob pythefnos. 

 

“Rwy’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored ac yn meddwl bod gwirfoddoli yn foddhaol iawn - yn enwedig wrth weld y newidiadau i un o fy hoff barciau. 

 

“Byddwn yn argymell gwirfoddoli i bawb, yn enwedig i unrhyw un sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored.”

 

Mae Mel Stewart, Ceidwad y Safle ym Mhorthceri, yn gobeithio y gall esiampl Steve annog pobl eraill yn y Fro i gymryd rhan.

 

Dywedodd: “Mae wedi bod yn wirfoddolwr ymroddedig a brwdfrydig yn y parc a byddai’n anodd ei ddychmygu heb ei ymrwymiad a’i sgiliau.  

 

“Mae pobl fel Steve yn rhan hanfodol o’n hymdrechion i ddiogelu’r cefn gwlad gwych sydd gennym ym Mro Morgannwg. Mae angen unigolion ymroddedig ac ymrwymedig arnom i’n helpu i wneud hyn, ac rydym yn gwahodd pawb i gysylltu â ni.” 

 

Os oes diddordeb gennych mewn cynnig eich gwasanaethau a gwirfoddoli yn y Fro, cysylltwch â'r tîm ar countrysidevolunteer@valeofglamorgan.gov.uk.