Cost of Living Support Icon

 

Digwyddiad Nadolig blynyddol yn canmol tîm diogelwch ffyrdd am gadw plant yn ddiogel dros Fro Morgannwg 

 

Cynhaliwyd Cyflwyniad Swyddogion Croesi Ysgol eleni yn Swyddfeydd y Dociau cyngor y Fro, lle diolchwyd i wirfoddolwyr a swyddogion am eu hymrwymiad i ddiogelwch ffyrdd.

 

  • Dydd Mawrth, 19 Mis Rhagfyr 2017

    Bro Morgannwg



Wedi eu gwisgo mewn siwmperi Nadolig, mwynhaodd torf o bobl ginio bwffe wedi ei ddilyn gan seremoni wobrwyo ar Ddydd Gwener 15 Rhagfyr.

 

Datgelodd yr elusen diogelwch ffyrdd, Brake, fod 46% o blant pum i ddeg oed a 38% o blant 11-16 oed, yn cerdded i’r ysgol, sy’n golygu fod dros 7,000 o blant ledled y Fro yn cerdded i’r ysgol bob dydd. 

 

This years winners with Cllr Cox

 

Cynhaliodd y Swyddog Diogelwch Ffyrdd, John Rogers, gwis Nadolig a chyflwyno gwobrau ynghyd â’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth, y cynghorydd George Cox. 

Dywedodd y Cyng Cllr Geoff Cox, :  “Diolch i’r gwirfoddolwyr a’r swyddogion am eich gwaith caled ac am gadw plant y Fro yn saff.” 

 

Rhoddwyd Cwpan Her William Maggs i David Letts am ei 12 mlynedd o wasanaeth fel Swyddog Croesi Ysgol yn Ysgol Gynradd Dinas Powys. 

 

Dywedodd David Letts,: “Doedd dim syniad gen i fy mod yn derbyn y wobr hon, wn i ddim beth i’w ddweud. Rwy’n 77 oed ac yn caru’r hyn rwy’n ei wneud, felly rwy’n gobeithio parhau i weithio tan fy mod yn 80. Mae’r plant yn hyfryd, ac mae’n swydd wych ym mhob tywydd, dyw hynny’n poeni dim arna i.” 

Enillodd Mary Gilbert, hyfforddwr gwirfoddol yn Ysgol Holton, wobr Kerbcraft, rhaglen sydd yn dysgu plant i fod yn gerddwyr mwy diogel wrth gerdded i’r ysgol.  

 

Enillodd Julie Ellis wobr am weithio fel Swyddog Croesi Ysgol mewn lleoliad anodd yn  Sain Tathan yn y Fro wledig, ac enillodd Nicholas Latham wobr debyg am weithio yn y Barri.

 

Enillodd Swyddog Croesi Ysgol ardaloedd Penarth, Dinas Powys a Sili, Nigel Bishop, wobr am ei dair blynedd o wasanaeth.

 

 

Volunteers and officers