Cost of Living Support Icon

 

Ras 10K Brecon Carreg Ynys y Barri fydd yr olaf yng Nghyfres Rhedeg dros Gymru

Traeth heulog fydd yn gefndir i ras 10K Brecon Carreg Ynys y Barri gyntaf ar 5 Awst 2018. 

 

  • Dydd Mawrth, 05 Mis Rhagfyr 2017

    Bro Morgannwg



Bydd y ras 10K newydd sbon yn dod â gŵyl redeg i’r dref glân môr boblogaidd a bydd yn rhan allweddol o benwythnosau chwaraeon Ynys y Barri'r haf nesaf. Bydd rhedwyr yn gweld rhai o atyniadau mwyaf adnabyddus y dref gan gynnwys Bae Whitemore, y Knapp a Pharc Romilly ar hyd y llwybr. Rhedwr dau marathon Olympaidd Steve Brace a bennodd y llwybr gan wneud yn siŵr ei fod yn addas ar gyfer rhedwyr o bob lefel.


Bydd Ras Hwyl i’r Teulu a gweithgareddau i blant ar y promenâd yn rhoi cyfle i gyw athletwyr a theuluoedd fod yn rhan o’r cyffro.  Mae Dŵr Brecon Carreg wedi ymuno â ni fel noddwr teitl yn rhan o'u dathliadau 40 mlynedd 2018.  

10kphotoDywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’n bleser gennym ni ddod â’r digwyddiad hwn i Ynys y Barri ar y cyd â'n partner, Rhedeg Dros Gymru. Mae’r Cyngor wedi cynnal gwaith adfywio sylweddol yn Ynys y Barri yn y blynyddoedd diwethaf er mwyn ei gwneud yn lleoliad gwyliau glan môr gwych. Aeth hyn law yn llaw â rhaglen ddigwyddiadau o’r radd flaenaf o’r enw Cyfres Penwythnosau Ynys y Barri. 


“Bydd y ras hon yn elfen amlwg o’r gyfres honno, a fydd yn ein barn ni yn gwneud yr ynys yn fwy apelgar byth drwy ddenu llu o ymwelwyr newydd. Bydd hynny yn ei dro'n fuddiol i'r economi leol. Caiff trigolion a busnesau lleol y newyddion diweddaraf am drefniadau'r ras a gwneir pob ymdrech i osgoi anghyfleustra cymaint â phosibl."

 

Mae’r llwybr yn mynd â rhedwyr o’r promenâd drwy ardal fanwerthu'r Barri ar ei newydd wedd, cyn troi o amgylch adeilad eiconig Swyddfeydd Dociau'r Barri. Ar ôl yr unig ran serth o’r ras ar Heol yr Isffordd, bydd rhedwyr yn rhedeg i lawr Broad Street, heibio i orsaf drenau'r Barri ac i mewn i Barc Romilly.


Bydd golygfeydd pert o Fôr Hafren a Pharc Gwledig Porthceri yn croesawu rhedwyr ar ddiwedd llinell groesi’r 6K. Ar ôl hynny, byddan nhw’n rhedeg heibio i draeth cerigos Knapp ac i fyny'r Parêd cyn dychwelyd i’r Ynys ar gyfer y 2K olaf. 

 

Bydd twrw torfeydd yn croesawu'r rhedwyr cyn iddyn nhw fynd o amgylch y ganolfan adloniant a lawr y rhiw tua'r gerddi ar Friars Road. 

“Mae’n bleser gennym ni fod mewn partneriaeth â Rhedeg Dros Gymru ar gyfer y ras 10K Brecon Carreg y Barri gyntaf. Bydd y brand yn dathlu 40 mlynedd yn 2018 a bydd y digwyddiad hwn yn rhan o’r dathlu. Mae digwyddiadau rhedeg yn gyfle gwych i annog ac ysbrydoli oedolion a phlant i wneud rhywbeth difyr ac iachus gyda'i gilydd," dywedodd Jenna Bissell, Rheolwr Marchnata Brecon Carreg. 

Run 4 Wales Chief Executive, Matt Newman, said: “ Dywedodd Prif Weithredwr Rhedeg dros Gymru, Matt Newman: “Mae gan redwyr brwd y cyfle bellach i ymgymryd â chyfuniad o dri digwyddiad unigryw mewn tri o leoliadau mwyaf eiconig De Cymru - Marathon Casnewydd Cymru ABP, Ras Bae Caerdydd a Ras 10K Brecon Carreg Ynys y Barri. Mae’n bleser gennym wneud hynny ar y cyd â’r Partner Teitl Brecon Carreg, brand Cymreig gwych rydym yn gweithio gydag ef ers llawer o flynyddoedd.

10klogo.jpg

 

“Bydd Ras 10K Brecon Carreg Ynys y Barri'n cyflwyno'r gwelliannau sydd wedi gwneud yr Ynys yn lleoliad gwyliau glan môr o'r radd flaenaf, a bydd hefyd yn gwrs heriol ac eto'n bert ar gyfer cystadleuwyr o bob gallu. Rydym ni’n credu y bydd y ras yn tyfu’n un o’r digwyddiadau i beidio â’i golli ar galendr chwaraeon Cymru, ac rydym ni'n edrych ymlaen at groesawu miloedd o redwyr ar 5 Awst 2018.”

Mae modd cofrestru ar gyfer ras 10k Brecon Carreg Ynys y Barri bellach a dim ond £20 yw'r pris cychwynnol. Cofrestrwch nawr ar www.barryisland10k.co.uk