Cost of Living Support Icon

 

Lansio ymgyrch i ddangos manteision band eang cyflym iawn yn Bro Morgannwg

 

Bydd ymgyrch newydd sy’n dangos sut mae band eang cyflym iawn yn newid bywydau pobl yn cael ei lansio yn Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Mercher, 06 Mis Rhagfyr 2017

    Bro Morgannwg



Nod ymgyrch Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo band eang cyflym iawn i drigolion y Bro Morgannwg  er mwyn dangos ei fanteision ac annog mwy a mwy o drigolion y sir i’w ddefnyddio.

 

Mae rhan fwyaf o bobl Bro Morgannwg yn gallu cael gafael ar y gwasanaeth erbyn hyn, a bydd yr ymgyrch yn dangos sut mae band eang cyflym iawn yn gweddnewid y ffordd mae pobl yn gweithio, yn dysgu ac yn cysylltu â’u teuluoedd a ffrindiau.

 

Mae band eang cyflym iawn yn galluogi sawl dyfais i weithio yr un pryd, gan ganiatáu pobl i ffrydio ffilmiau, lawrlwytho cerddoriaeth, astudio neu sgwrsio gyda’u hanwyliaid heb darfu ar y cysylltiad.

Bydd yr ymgyrch yn pwysleisio sut mae’r gwasanaeth yn trawsnewid y modd mae pobl yn byw ac yn gweithio o Fôn i Fynwy.


Bydd yr ymgyrch yn dangos sut mae band eang cyflym iawn yn gweddnewid y ffordd mae pobl yn gweithio, yn dysgu ac yn cysylltu â’u teuluoedd a ffrindiau.

 

 

Broadband pic

Bydd yr ymgyrch yn pwysleisio sut mae’r gwasanaeth yn trawsnewid y modd mae pobl yn byw ac yn gweithio o Fôn i Fynwy.

 

Er bod y rhan fwyaf o’r sir yn gallu cyrchu band eang cyflym iawn os ydyn nhw’n dymuno, dyw canran fach o safleoedd ddim yn gallu gwneud hynny. Mae cymorth ar gael iddyn nhw ar wefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio tîm band eang Llywodraeth Cymru.

 

“Mae band eang cyflym iawn yn hollbwysig i gartrefi, felly dyna pam rydyn ni’n ymrwymo i gyflwyno cysylltiad rhyngrwyd cyflymach ym mhob cwr o’r wlad. Mae gwella’n seilwaith digidol yn allweddol i lywio twf economaidd, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a helpu pobl i gyfathrebu.

 

“Er bod y rhan fwyaf o gartrefi Bro Morgannwg yn gallu derbyn gwasanaeth band eang cyflym iawn, dyw llawer ddim yn ymwybodol o’r manteision na sut i elwa ar hynny. Mae cysylltiadau band eang cyflymach yn galluogi teuluoedd ac unigolion i wneud eu gweithgareddau’n gynt ac yn fwy effeithlon nag erioed o’r blaen, ac ar sawl dyfais hefyd. Mae hyn yn cynnwys lawrlwytho adnoddau dysgu mawr i’w plant, rheoli cyfrifon banc, siopa ar y we, talu biliau’r aelwyd neu ddefnyddio gwasanaethau fideo fel Skype – i enwi dim ond rhai.

 

“I weithwyr cartref, mae’r gwasanaeth yn golygu eu bod yn fwy effeithlon, yn hybu cynhyrchiant ac yn cyflawni i’r eithaf. Mae gallu cyfathrebu trwy gyfrwng system fideo-gynadledda HD neu Skype yn helpu cwmnïau i siarad â’u staff, cwsmeriaid a chyflenwyr unrhyw le yn y byd.

 

“Hefyd, mae band eang cyflym iawn yn eich cysylltu â gwasanaeth cyfrifiadura cwmwl fel cronfeydd data wrth gefn ar unwaith, sy’n golygu bod diogelwch ac uwchraddio’n haws nag erioed i ddefnyddwyr. 

“Rydym am weld cymaint ag sy’n bosib o bobl yn gwireddu’r manteision hyn, a nod yr ymgyrch hon yw dangos sut mae’r dechnoleg yn effeithio ar filoedd o fywydau mewn cymunedau ar draws Cymru.” - Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James, Llywodraeth Cymru. 


 

Dylai cartrefi a busnesau Bro Morgannwg sy’n dymuno elwa ar fand eang ffeibr cyflym iawn gysylltu â’r darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) o’u dewis i’w archebu.

 

Ewch i’r wefan i weld pa wasanaeth band eang sydd ar gael.