Cost of Living Support Icon

 

Ysgol Gyfun y Bont-faen yn cael ei henwi’n Ysgol Wladol Gymreig y Flwyddyn gan The Sunday Times

MAE Ysgol Gyfun y Bont-faen wedi ennill gwobr Ysgol Uwchradd Wladol Gymreig y Flwyddyn The Sunday Times - y tro cyntaf i'r wobr gael ei rhoi - ar ôl dod ar frig cynghrair Cymru’r papur newydd.

 

  • Dydd Mercher, 06 Mis Rhagfyr 2017

    Bro Morgannwg

    Cowbridge



Hon oedd yr ysgol orau o’i math yng Nghymru yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau diweddar.


Mae’r canllaw’n rhoi'r ysgol gyfun Bro Morgannwg, o flaen Ysgol Gyfun Radur o Gaerdydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.

 

Cowbridge Comprehensive


Mae lle'r Bont-faen ar frig y tabl yn dilyn dod yn bedwerydd y llynedd.


Daw’r newyddion ar ôl i’r ysgol weld 60.4 y cant o fyfyrwyr Lefel A yn cael graddau A* i B a 42 y cant o ddisgyblion TGAU yn cael graddau A*. 

“Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol iawn i Ysgol Gyfun y Bont-faen yn dilyn canlyniadau gwych yn yr arholiadau TGAU a Lefel A. Chwarae teg iddynt – mae’r teitl Ysgol Uwchradd Wladol Gymreig y Flwyddyn The Sunday Times yn un arbennig. Fe ddylai pawb yn yr ysgol fod yn falch iawn. Mae’r anrhydedd yn dyst i waith caled y staff a’r disgyblion a hoffwn longyfarch cymuned gyfan yr ysgol.” - Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant: