Cost of Living Support Icon

 

Pentref Iâ i gau’r penwythnos yma 

Mae’r Pentref Iâ yn Barc Canolog y Barri yn mynd i gau ar ol y sessiwn sglefrio olaf ar ddydd Sul 17 Rhagfyr. 

  • Dydd Iau, 14 Mis Rhagfyr 2017

    Bro Morgannwg



Agorodd yr atyniad, sy'n cael ei weithredu gan weithredwr digwyddiadau annibynnol, 11th Hour, ddydd Sadwrn 25 Tachwedd, wedi’i gontractio tan 17 Rhagfyr gan Gyngor Bro Morgannwg. Roedd y gweithredwr wedi bwriadu cadw’r atyniad ar agor am ddwy wythnos ychwanegol ond mae wedi penderfynu cau ar ôl y tymor gwreiddiol a gontractiwyd, er mawr siom i’r Cyngor. Mae hwn yn benderfyniad masnachol yn sgil niferoedd isel o sglefrwyr.

 

Ad-delir archebion ymlaen llaw yn awtomatig ar gyfer dyddiadau ar ôl 17 Rhagfyr ymhen y pum diwrnod gwaith nesaf. 

 

Gall enillwyr cystadleuaeth nad ydynt wedi defnyddio eu tocynnau am ddim wneud felly y penwythnos hwn neu gael tocynnau i lawr sglefrio arall a reolir gan 11th Hour.