Cost of Living Support Icon

 

Trafod Twrci

Gyda dau draean o aelwydydd y DU yn dewis twrci wedi ei rostio ar gyfer eu cinio Nadolig, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnig cyngor ar sut i baratoi eich twrci gartref yn ddiogel.

 

  • Dydd Mawrth, 19 Mis Rhagfyr 2017

    Bro Morgannwg



O brynu’r twrci hyd at storio’r cig sydd yn weddill, mae nifer o gynghorion hylendid bwyd y gallwch eu dilyn i ddiogelu eich anwyliaid dros gyfnod yr ŵyl.

 

Turkey-Roasting

“Bob blwyddyn, mae tua 1m o achosion o wenwyn bwyd yn y DU. Y dull hawsaf o ddiogelu eich teulu y Nadolig hwn yw sicrhau eich bod yn storio bwyd a'i goginio yn ddiogel.  

 

Rydym wedi llunio ein canllaw ‘Trafod Twrci’, sy’n cynnig cynghorion ar oeri, glanhau, coginio ac osgoi croeshalogi, tra ar yr un pryd yn egluro rhywfaint ar y wyddoniaeth sy’n sail i’n cyngor.”   - Dywed Dr Kevin Hargin, Pennaeth Rheoli Clefydau a Gludir gan Fwyd yn yr ASB


heart 1

Cyngor i goginio'r twrci 1

Wrth fynd i siopa bwyd Nadolig, ewch â digon o fagiau gyda chi fel y gallwch gadw bwyd amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta ar wahân i osgoi croeshalogi.

star 2

Cyngor i goginio'r twrci 2

Darllenwch y canllawiau ar eich twrci i sicrhau bod digon o amser gennych i’w ddadmer yn llwyr – gall gymryd hyd at bedwar diwrnod.

stocking 3

Cyngor i goginio'r twrci 3

Peidiwch â golchi twrci amrwd. Y cyfan mae hynny’n ei wneud yw tasgu germau ar eich dwylo, dillad, offer cegin ac arwynebau’r gegin.

heart 4

Cyngor i goginio'r twrci 4

Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn er mwyn cyfrifo’r amser sydd ei angen i goginio’ch aderyn. Sicrhewch fod y cig yn stemio drwyddo; nad oes cig pinc i’w weld pan fyddwch yn torri’r rhan fwyaf trwchus a bod sudd y cig yn rhedeg yn glir.

Star 5

Cyngor i goginio'r twrci 5

P’un ai a fyddwch wedi coginio twrci ffres neu un wedi ei rewi, gallwch ddefnyddio’r cig sydd yn weddill i wneud pryd newydd (megis cyri twrci). Mae modd rhewi’r pryd newydd yma, ond sicrhewch eich bod ond yn ei aildwymo unwaith.

Stocking 6

Cyngor i goginio'r twrci 6

Sicrhewch fod y cig a goginiwyd gennych yn cael ei gadw yn yr oergell cyn ei ddefnyddio eto – peidiwch â’i adael allan yn y gegin lle bydd y tymheredd yno yn berffaith i facteria luosogi.

“Gall coginio’r pryd Nadolig yn aml achosi straen a chymryd llawer o amser, yn enwedig wrth baratoi ar gyfer grŵp mawr o bobl. Gall hyn arwain rhai cwsmeriaid i dorri corneli drwy beidio â golchi dwylo wedi cyffwrdd â chig amrwd a pheidio â choginio’r twrci’n ddigonol. 

 

Gall twrci amrwd sydd heb ei goginio ddigon beri gwenwyn bwyd a all olygu canlyniadau difrifol yn enwedig i blant, pobl sydd eisoes yn sâl a phobl hŷn. Mae’n bwysig cofio taw’r broses goginio sy’n lladd y bacteria yn y twrci. Ni all golchi twrci wneud hyn – mewn gwirionedd, bydd y germau yn gwasgaru ar hyd y lle wrth i’r dŵr dasgu. 

“Dyna pam ein bod yn cefnogi neges yr Asiantaeth Safonau Bwyd i’ch helpu chi i goginio eich aderyn tymhorol gyda hyder y Nadolig hwn.” - Dywedodd y Cyng. Dhanisha Patel, Cadeirydd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

 

#TrafodTwrci

Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch bwyd y Nadolig hwn, ewch i www.food.gov.uk neu dilynwch @foodgov ac @SRS_Wales  ar Twitter am gyngor trwy gydol cyfnod y dathlu.