Cost of Living Support Icon

 

Troi ystafelloedd newid Trwyn Nell yn fwytai

Bydd yr hen ystafelloedd newid yn Nhrwyn Nell yn cael anadl einioes yn dilyn ymarfer marchnata diweddar gan Gyngor Bro Morgannwg.  

 

  • Dydd Mawrth, 12 Mis Rhagfyr 2017

    Bro Morgannwg



Mae’r Datblygwyr Next Colour Ltd wedi'u dewis i wireddu project i adeiladu nifer o fwytai o safon ar y safle.

 
Next Colour Ltd fu’n gyfrifol am y gwaith o adnewyddu sinema'r 1930au yn Oyster Wharf ym Mwmbls i safon arbennig ac mae’r Cyngor yn galonogol y caiff gwaith datblygu o ansawdd tebyg ei gyflawni yn yr achos hwn.


Changing roomsMae hyn yn gam arall tuag at adfywio Ynys y Barri yn dilyn gwaith gwella sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Yn rhan o hynny, cafodd y lloches Edwardaidd Rhestredig Gradd II ei uwchraddio, cafodd cyfleusterau toiledau modern eu darparu a chafodd cabannau traeth unigryw newydd eu creu. 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’n bleser gan y Cyngor gyhoeddi’r cynnig cyffrous newydd hwn. Bydd cyflwyno bwytai o safon yn Ynys y Barri'n hwb arall i'r ardal a fydd yn helpu i’w hyrwyddo fel lleoliad gwyliau glan môr heb ei ail. Rydym ni'n gobeithio y bydd yn gwneud y lleoliad yn fwy apelgar byth i drigolion ac i ymwelwyr.   
“Mae’r Cyngor wedi neilltuo cryn dipyn o adnoddau i uwchraddio'r Ynys dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n galonogol gweld buddsoddiad preifat yn yr ardal yn sgil yr ymrwymiad hwnnw.

vog00057A

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Next Colour, James Morse: “Mae’n bleser gennym ni fod Cyngor Bro Morgannwg wedi'n penodi i ailddatblygu'r hen ystafelloedd newid uwchben Trwyn Nell.  Mae’n safle gwych ar un o draethau baner las gorau Cymru.


“Rydyn ni’n bwriadu datblygu clwstwr o fwytai glan môr gyda golygfeydd godidog dros y bae. Bu gwaith adfywio sylweddol yn y Barri yn ystod y blynyddoedd diwethaf a'n bwriad yw dod â rhywbeth arbennig i'r arfordir. Y nod yw ehangu apêl gwyliau yn y Barri drwy gydol y flwyddyn a bydd cynlluniau mwy manwl yn cael eu datblygu yn y Flwyddyn Newydd."

Cafodd y Cyngor ei gynghori gan Paul Tarling yn Jones Lang LaSalle Limited a chafodd Next Colour ei gynghori gan David Blyth o Ymgynghorwyr Eiddo BP2 a Phillip Morris o EJ Hales.