Cost of Living Support Icon

 

Mae pobl o bob cwr o’r Fro yn rhannu eu hoff atgofion fel rhan o arddangosfa ‘yr oes a fu’ llyfrgell Y Barri 

Mae wal atgofion wedi’i chreu yn Oriel Gelf Ganolog y Barri i alluogi pobl i rannu eu profiadau o fyw ym Mro Morgannwg.  

 

  • Dydd Mawrth, 19 Mis Rhagfyr 2017

    Bro Morgannwg



O ddiwrnodau nofio yn yr ysgol i wylio eliffantod yn ymdrochi ym Mae’r Tŵr Gwylio, mae gweithwyr y llyfrgell yn annog mwy o drigolion i ychwanegu at y rhestr.

 

memories - noteI ddathlu deng mlwyddiant Llyfrgell y Barri a’r Oriel Gelf Ganolog yn Sgwâr y Brenin, mae ‘Llunio’r Fro – yr Oes a Fu’ yn cynnwys nifer fach o 3,000 o luniau o archifau’r llyfrgell a gan bobl leol sy’n byw ledled y Fro.


Cafwyd cymorth gan dîm o wirfoddolwyr i gatalogio’r lluniau, a fydd yn rhan o gasgliad a gaiff ei gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Y nod yw cynyddu ôl-troed digidol Cymru drwy roi’r lluniau ar-lein. 

 

 

Dywedodd Uwch Llyfrgellydd Melanie Weeks:  “Rydyn ni wrth ein boddau i weld bod y lluniau wedi ysbrydoli atgofion hyfryd, o deithio ar y car rhaffog yn Ynys y Barri i ymweld â Siôn Corn yn eu groto yn siop Dan Evans. Mae dal amser i ymweld â’r arddangosfa ac ychwanegu eich atgofion i’r wal.” 

 

Mae’r oriel yn cynnwys eliffantod yn ymdrochi ym Mae’r Tŵr Gwylio, canol trefi mewn du a gwyn a lluniau o ddosbarthiadau ysgol.

 

Mae’r arddangosfa ar agor o 9.30yb tan 4.30yp ac yn rhedeg tan Sadwrn 6 Ionawr.

 

Mi fydd Celf Canolog ar agor bob dydd yn ystod y gwyliau Nadolig oni bai am bob dydd Sul, diwrnod Nadolig, Rhagyr 26 ac ar Ionawr 1.

 

Am fwy o wybodaeth ar ddigwyddiadau yn Gelf Ganolog, ewch i’r wefan

 

 memories - note 3                    memories - note three