Cost of Living Support Icon

 

Staff Cyngor Bro Morgannwg yn lledaenu hwyl yr ŵyl i bobl mewn angen gyda menter ‘calendr tu chwith’ 

Mae bocsys yn llawn nwyddau wedi’u rhoi i ddefnyddwyr gwasanaeth ar draws y Fro, o ganlyniad i syniad ar gyfer calendr tu chwith.  

  • Dydd Mercher, 20 Mis Rhagfyr 2017

    Bro Morgannwg



Calendr adfent tu chwith ydy llenwi bocs gwag ag eitem ar gyfer banc bwyd neu wasanaeth mewn angen, am 25 diwrnod ym mis Rhagfyr. 

 

Treuliodd Helen Galsworthy, Rheolwr Asedau a Datblygu’r Fro, a Denise Baker, y Cynorthwy-ydd Dewisiadau Llety, brynhawn yn danfon bocsys llawn bwyd tin a bwyd i’r cwpwrdd, yn ogystal â nwyddau ymolchi, i wasanaethau ar draws y Fro.  

 

The Vale staff at Gwalia

 

 

Rhoddwyd un bocs i Tŷ Iolo, hostel 21 ystafell, dau focs i Llamau, elusen yn y Barri, dau arall i Gwalia, darparwr tai gwarchod, a dau i Atal y Fro, sef sefydliad sy’n ymroddi i roi terfyn ar gam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws y sir. 

Dywedodd Helen Galsworthy, y Rheolwr Asedau a Datblygu: “Gwelais i’r syniad ar gyfer Calendr o Chwith ar y cyfryngau cymdeithasol, a meddyliais i y byddai’n fenter wych i’w gwneud yn y swyddfa. 

 

“Rhennais i’r syniad gyda Denise, a phenderfynon ni ddechrau ein menter ein hunain ddiwedd mis Tachwedd, i gasglu nwyddau dros gyfnod o bedair wythnos yn barod ar gyfer y Nadolig.  Cysyllton ni â phawb ar draws y Fro, gan feddwl y byddai gennym efallai dau focs llawn, ond rhoddwyd rhywbeth gan rywun bob dydd ac fe lenwon ni saith bocs.  "Roedd yn llawer mwy na’r disgwyl ac rydyn ni’n gobeithio gwneud hyn bob Nadolig.” 

 

 Edrychwch ar y wefan, am fwy o wybodaeth am Gymorth Tai. 

 

Dywedodd gweithiwr yn Gwalia, Phil Morgan: “Mae hyn yn anhygoel; rydyn ni’n hynod ddiolchgar.  Rydyn ni wirioneddol yn gwerthfawrogi cael ein dewis i dderbyn rhoddion y Nadolig yma ac rwy’n sicr y bydd y cleientiaid yn hapus iawn.” 

 


staff and service users at Ty Iolo