Cost of Living Support Icon

170 o Blant y Barri yn Taro Nodyn Cyffrous!

 

27 Chwefror 2017

 

Gyda chefnogaeth gan Gymunedau’n Gyntaf y Barri, perfformiodd disgyblion amryw o ysgolion cynradd ac uwchradd y Barri ddigwyddiad cerddorol a gweledol anhygoel yn Ysgol Gyfun y Barri yn ddiweddar.

 

Cynhaliwyd y digwyddiad ar 15 Chwefror, ac roedd disgyblion o Ysgolion Cynradd Gladstone, Parc Jenner, Palmerston a Holton, ac o Ysgolion Uwchradd y Barri a Bryn Hafren yn perfformio.


Cyn y digwyddiad, bu’r disgyblion ar gwrs hyfforddi cerddorol chwe wythnos wedi ei ddarparu gan Gerdd a Chelf Upbeat, ac ymhlith y sgiliau a astudiwyd roedd Samba Brasilaidd a Bîtfocsio.  


Nod y cwrs oedd annog disgyblion o’r amrywiol ysgolion i gydweithio. Sioe gerddorol a gweledol anhygoel yn Ysgol Uwchradd y Barri oedd y canlyniad. 


Roedd dros 100 o rieni, staff a llywodraethwyr Ysgol Gyfun y Barri yn y gynulleidfa i weld y disgyblion yn mynd drwy’u pethau. 


Dywedodd Holly Morgan, Swyddog Pontio Cymunedau’n Gyntaf y Barri, “Hoffwn ddiolch o galon i Gerdd a Chelf Upbeat, a’r ysgolion i gyd, yn ogystal â’r bobl ifanc a’r teuluoedd a fu’n rhan o’r cynllun.”


Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, ac Aelod y Cabinet dros Adfywio ac Addysg, y Cynghorydd Lis Burnett: “Mae digwyddiadau fel hyn yn gwneud i bobl ifanc y Fro deimlo’n fwy hyderus wrth gamu o’r ysgol gynradd i’r uwchradd.


“Mae Cymunedau’n Gyntaf y Barri wedi gwneud gwaith gwych yn trefnu digwyddiad sydd wedi bod yn gwbl gynhwysol, yn hwyl, ac yn fuddiol i’r bobl ifanc i gyd.”


Roedd y project hwn yn rhan o broject Pontio Cymunedau’n Gyntaf y Barri, a arweinir gan Gyngor Bro Morgannwg. Nod y project yw rhoi cyfle i ddisgyblion Blynyddoedd 6 a 7 i weithio gyda’i gilydd er mwyn cynyddu hyder a’i gwneud yn haws symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. 


I gael rhagor o wybodaeth am y project Pontio, cysylltwch â Chymunedau’n Gyntaf y Barri ar 01446 709432, neu ewch i www.BarryCommunitiesFirst.org.


Mae Cymunedau’n Gyntaf y Barri hefyd ar Facebook fel BarryCommunitiesFirst.